Skip to main content

Croeso i'r adran tywydd a gwyliau!

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Sut alla i ofalu am fy nghroen yn yr haf?
  • Sut alla i ddewis eli haul?
  • Sut y gall paill effeithio ar fy ecsema?
  • A fydd fy ecsema'n mynd yn well neu'n waeth ar wyliau?
  • Beth ddylwn i feddwl amdano wrth fynd ar wyliau?
  • Sut alla i ofalu am fy nghroen yn y gaeaf?

Sut mae'r tywydd yn effeithio ar fy ecsema?

Mae ecsema pawb yn wahanol, felly mae’n anodd dweud sut olwg fydd ar eich ecsema mewn tywydd gwahanol. Gall tywydd poeth neu oer a newidiadau sydyn mewn tymheredd wneud eich ecsema'n waeth.

Mae rhai pobl yn cael bod paill yn gallu gwaethygu eu hecsema.

Sut y gall paill waethygu ecsema?

Mae rhai pobl yn cael bod paill yn gallu gwaethygu eu hecsema. Mae tri phrif fath o baill a all wneud ecsema'n waeth ar wahanol adegau o’r flwyddyn:

  • Glaswellt
  • Had rêp
  • Paill coed

Mae adweithiau fel arfer yn digwydd mewn rhannau o groen sy'n agored i'r aer, megis yr wyneb neu goesau/breichiau noeth.

Pryd mae paill yn waeth a beth alla i ei wneud?

Yn ystod yr haf, mae paill ar ei uchaf yn gynnar yn y bore ac yna'n dod i lawr tua'r nos. Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i osgoi paill os ydych chi'n credu ei fod yn gwaethygu'ch ecsema.

Gallech chi roi cynnig ar:

  • Cadw ffenestri ystafelloedd gwely ar gau yn ystod y nos
     
  • Sychu dillad dan do, gan fod paill yn glynu'n hawdd at gynfasau a dillad pan ydyn nhw'n cael eu sychu yn yr awyr agored
     
  • Gall gwrth-histaminau fod yn ddefnyddiol ar gyfer symptomau clefyd y gwair, megis trwyn yndiferu, ond nid ydynt fel arfer yn cael eu rhagnodi ar gyfer ecsema.

Defnyddiwch eli lleithio cyn mynd allan. Pan ydych chi'n cyrraedd yn ôl dan do, golchwch eich wyneb a defnyddiwch eli lleithio eto.

Rwy’n meddwl bod yr haf yn waeth i mi, yn bennaf oherwydd fy mod i'n mynd yn goslyd pan wyf yn boeth. Rwyf wedi gwella ychydig o ran ei atal rhag gwaethygu yn yr haf nawr, ond mae'n dibynnu ar beth rwy'n ei wneud.

Ella

Cliciwch ar y botymau isod i gael rhai awgrymiadau ar sut i ofalu am eich croen yn yr haf, yn ystod gwyliau, ac yn y gaeaf:

Yn yr haf      Yn y gaeaf      Yn ystod gwyliau

Sut alla i ofalu am fy nghroen yn yr haf?

Mae'r ychydig dudalennau nesaf yn rhoi awgrymiadau ymarferol ar gadw'n oer, defnyddio eli (ointments or creams) haul, a lleithio i gadw rheolaeth ar eich ecsema yn yr haf.

Awgrym 1: Cadwch yn oer

Gall gwres achosi ecsema a gwneud iddo deimlo'n goslyd iawn. Gall gwisgo hetiau a dillad cotwm llac helpu i'ch amddiffyn rhag yr haul a helpu i'ch cadw'n oer ac yn gyfforddus.

Awgrym 2: Deliwch â chwys

Er bod chwysu'n ymateb arferol i wres ac ymarfer corff, gall lidio croen ag ecsema. Gall fod yn boenus pan yw ar groen sydd wedi'i ddifrodi. Felly gall fod yn ddefnyddiol cael cawod neu fath cyflym pan ydych chi'n chwyslyd iawn.

Awgrym 3: Lleithiwch

Gall bod yn yr awyr agored yn yr haf sychu'r croen. Felly mae'n bwysig dal ati i ddefnyddio'ch eli lleithio. Mae'n well defnyddio'ch eli lleithio o leiaf 30 munud cyn defnyddio eli haul. Os ydych chi'n rhoi lleithydd ymlaen ychydig cyn yr eli haul, efallai y bydd yr eli haul yn cael ei wanhau ac na fydd yn gweithio'n iawn.

Efallai y byddwch chi'n cael y bydd lleithydd teneuach yn well ar ddiwrnodau poeth. Mae rhai pobl yn cael bod eli lleithio trwchus neu saim yn eu gwneud yn boeth, yn ludiog ac yn goslyd. Mae rhai'n ei chael yn ddefnyddiol i gadw eu eli yn yr oergell fel ei fod yn oeri eu croen pan ydyn nhw'n eu rhoi arnynt.

Os ewch chi i nofio, gallwch chi amddiffyn eich croen trwy roi'r eli lleithio arnoch cyn nofio ac eto yn syth ar ôl cael cawod.

I weld rhagor o wybodaeth am ddefnyddio neu ddewis eli lleithio, edrychwch ar yr adran ‘eli lleithio’ o’r ddewislen uchod.

Awgrym 4: Defnyddiwch eli haul

Gall dewis eli haul fod ychydig fel dewis eli lleithio. Mae'r rhan fwyaf o bobl ag ecsema yn ei chael yn ddefnyddiol osgoi persawr a chynhwysion eraill a allai achosi ecsema.

Gall rhai elïau haul wneud eich ecsema yn waeth. Felly efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar ychydig o rai gwahanol nes i chi ddod o hyd i un sy'n gweithio i chi.

Dysgu rhagor am brofi a dewis eli haul

Mae rhai pobl yn cael bod eu hecsema'n gwella gyda golau'r haul tra bod eraill yn cael ei fod yn gwaethygu eu hecsema. Dylai pawb amddiffyn eu croen rhag pelydrau niweidiol yr haul. Mae hyn yn golygu defnyddio eli haul yn yr haf hyd yn oed pan yw'n gymylog, panydych chi ar wyliau mewn hinsawdd gynhesach, neu pan ydych chi'n cymryd rhan mewn chwaraeon gaeaf yn yr awyr agored.

Bydd math a lliw eich croen yn effeithio ar ba ffactor amddiffyn eli haul (SPF) y mae angen i chi ei ddefnyddio. Yn gyffredinol, argymhellir SPF 30.

Bydd rhai mathau o eli haul yn gwneud eich ecsema yn waeth. Chwiliwch am eli haul heb arogl sy'n amddiffyn yn erbyn UVA ac UVB.

Mae dau fath o eli haul:

  1. Elïau haul sy'n cael eu hamsugno i'r croen. Mae'r rhain yn fwy tebygol o lidio ecsema.
  2. Elïau haul sy'n eistedd ar y croen ac yn rhwystr. Mae'r math hwn fel arfer yn well ar gyfer ecsema ond mae'n gadael sglein wen ar ôl.

Yr hyn sydd bwysicaf yw dod o hyd i eli haul sy'n gweithio orau i chi ac nad yw'n costio gormod.

Efallai y gall eich fferyllydd eich helpu i ddewis eli haul i roi cynnig arno, ond efallai nad fferyllfeydd yw’r lle rhataf i brynu eli haul.

Sut alla i ofalu am fy nghroen yn y gaeaf?

Mae ecsema llawer o bobl yn fflamychu (flare ups) yn y gaeaf. Gall hyn fod oherwydd y tywydd oer a'r gwresogi dan do. Bydd y tudalennau nesaf yn cynnwys rhai awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i gadw rheolaeth ar eich ecsema yn ystod misoedd y gaeaf.

Awgrym 1: Lleithiwch yn aml

Mae'r croen yn debygol o sychu'n gyflymach yn y gaeaf. Un ffordd y mae rhai pobl ag ecsema'n delio â hyn yw trwy newid i eli lleithio mwy trwchus. Mae eraill yn canfod y gall defnyddio eu eli lleithio'n amlach atal eu croen rhag sychu yn y gaeaf.

Gall cadw at eich trefn foreol o dddefnyddio eli lleithio eich helpu i amddiffyn rhag yr aer oer.

Awgrym 2: Amddiffynnwch eich dwylo

Mae dwylo yn aml mewn mwy o berygl nag unrhyw ran arall o'r corff yn ystod y gaeaf. Maent fel arfer yn cael eu golchi sawl gwaith y dydd ac maent yn agored i'r aer oer. Gall golchi dwylo trwy gydol y dydd olchi i ffwrdd olewau naturiol sy'n gofalu am eich croen.

Mae pobl wedi canfod y gall defnyddio eli lleithio ar ôl golchi eu dwylo helpu i gadw rheolaeth ar ecsema dwylo. Gall atal cracio a gwaedu o'r migyrnau.

Pan ydych chi yn yr awyr agored, gall gwisgo menig fod yn ffordd wych o amddiffyn dwylo rhag yr aer oer neu'r gwynt. Ni ddylen nhw fod wedi'u gwneud o ddeunydd a fyddai'n gwaethygu'ch ecsema.

Awgrym 3: Trowch y gwres i lawr

Gall fod yn demtasiwn i gadw'r gwres ymlaen yn uchel dan do. Ond gall aer poeth sychu'r croen ac achosi i ecsema fflamychu. Mae pobl wedi canfod bod cadw'r gwres heb fod yn uwch na 20-22 gradd yn cadw'r croen yn gyfforddus.

Gall cadw'r tymheredd yn oerach yn yr ystafell wely helpu i fod yn gyfforddus yn ystod y nos. Gallwch ddysgu rhagor am gadw’n oer yn y nos yn yr adran ‘cysgu’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘byw ag ecsema’ uchod.

Awgrym 4: Gwisgwch nifer o haenau yn yr awyr agored

Gall haenau fod o gymorth mawr gyda'ch croen yn y gaeaf. Mae hyn oherwydd y gellir tynnu haenau i'ch atal rhag mynd yn rhy boeth, a all wneud i chi gosi.

Gall gwisgo deunyddiau meddal ac anadladwy, megis cotwm, yn erbyn y croen eich helpu i gadw'n gyfforddus pan ydych chi yn yr awyr agored.

Mae'r rhan fwyaf o bobl ag ecsema yn canfod bod gwlân yn gwneud i'w croen gosi mwy. Weithiau gall ffibrau o waith dyn, megis neilon, deimlo'n arw a llidio'r croen. Gall labeli dillad lidio hefyd. Mae'n bwysig gwisgo dillad sy'n teimlo'n gyfforddus.

Awgrym 5: Cawodydd cynnes, yn hytrach na rhai poeth

Gall cawodydd neu faddonau poeth dynnu'r olewau naturiol sydd yn y croen. Mae pobl wedi canfod y gall treulio llai o amser yn y gawod neu ostwng y tymheredd fod yn ddefnyddiol.

Mae defnyddio eli lleithio ar ôl eich bath neu gawod yn helpu i amddiffyn y croen ac yn cloi lleithder i mewn.

Ewch i’r adran ‘eli lleithio’ o’r ddewislen uchod i weld rhagor o wybodaeth am ddefnyddio eli lleithio.

 

 

Sut y bydd gwyliau'n effeithio ar fy ecsema?

Mae rhai pobl yn canfod bod eu hecsema'n gwella neu hyd yn oed yn clirio ar wyliau. Mae rhai pobl yn canfod bod dŵr môr hefyd yn helpu eu hecsema.

I eraill, gall hinsawdd boeth a llaith wneud ecsema'n waeth. Mae'n anodd gwybod sut fydd eich croen oherwydd mae pawb yn wahanol.

Mae'r ychydig dudalennau nesaf yn egluro beth allech chi fynd â nhw gyda chi wrth fynd ar wyliau a all helpu i reoli ecsema ar y ffordd.

Os ydw i dros fy nherfyn hylifau, yna rwy'n gofyn i aelodau fy nheulu neu ffrindiau fynd â rhai o fy eli gyda nhw yn eu bagiau siec. Os nad oes ganddyn nhw ddigon o le, yna rwy'n postio'r eli ataf fy hun neu'n prynu'r eli pan ydw i'n cyrraedd yno. Mae'n rhatach na thalu am fagiau weithiau!

Bradley

Beth ddylwn i feddwl amdano wrth fynd ar wyliau?

Cyflenwadau

Cofiwch fynd â digon o’ch eli rheoli fflachiadau a eli lleithio gyda chi fel nad ydych chi’n rhedeg allan. . Os ydych chi'n teithio mewn awyren, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n pacio unrhyw eli dros 100ml mewn bagiau wedi'u cofnodi.

Os nad ydych chi'n cofnodi unrhyw fagiau, bydd angen i chi symud yr eli i gynwysyddion sy'n 100ml neu lai ac sy'n gallu ffitio i mewn i fag plastig tryloyw y gellir ei ail-selio. Mae rhai cwmnïau hedfan yn caniatáu i chi gymryd hylifau mwy na 100ml gyda nodyn meddyg neu gopi o'ch presgripsiwn. Efallai y byddwch chi am wirio gyda'ch cwmni hedfan cyn teithio er mwyn gwirio a ydyn nhw'n caniatáu hyn a pha ddogfennau y mae angen iddyn nhw eu gweld.

ELI LLEITHIO

Mae'n well gan rai pobl ddefnyddio eli lleithio teneuach yn ystod y dydd gyda thywydd poeth. Gall eli lleithio mwy trwchus wneud iddyn nhw deimlo'n boeth, yn ludiog ac yn goslyd.

ELÏAU HAUL

Putting on sunscreen is essential for protecting your skin in the sun. Try not to rub the cream too hard to avoid setting off itching. Some sunscreens come as a spray, which may make it easier to apply. Reapply sunscreen every 2 hours during the day and after swimming. Check expiry dates before packing your sunscreen.

DILLAD OER

Gall pacio dillad oer a llac helpu i'ch cadw'n oer. Mae dillad cotwm yn ddelfrydol gan fod cotwm yn gadael i'r croen anadlu.