Skip to main content

Eli rheoli fflamychiadau

Mae'r wybodaeth hon yn bwysig i bawb sydd ag ecsema. Hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn gofalu am eich ecsema ers tro, efallai y byddwch chi'n dod o hyd i rai awgrymiadau newydd, defnyddiol.

 

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Beth yw eli rheoli fflamychiadau
  • A yw eli rheoli fflamychiadau'n ddiogel?
  • Pryd mae angen i mi ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau?
  • Sut y dylwn i ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau?
  • Rheolau Euraidd ar gyfer defnyddio eli rheoli fflamychiadau

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu rhagor am eli rheoli fflamychiadau a sut i'w defnyddio'n ddiogel.

Cliciwch yma i weld fersiwn testun o'r fideo

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n dysgu unrhyw beth newydd gan fy mod wedi bod yn delio â fy ecsema ers blynyddoedd ond darganfyddais rai pethau nad oeddwn yn eu gwybod.

Emily

Beth yw eli rheoli fflamychiadau?

Defnyddir eli (ointment or cream) rheoli fflamychiadau (flare-ups) i reoli fflamychiadau ecsema. Maent yn cynnwys meddyginiaethau i wneud y croen yn llai dolurus a choslyd. Mae hyn yn helpu'r croen i wella. Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl ag ecsema ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau ar ryw adeg. 

Pa fathau o eli rheoli fflamychiadau sydd ar gael?

Fel arfer rhagnodir yr eli hyn ac maent fel arfer yn eli steroid (corticosteroidau argroenol). Weithiau rhagnodir TCIs (Atalyddion Calsinwrin Arwynebol) i bobl. Gallwch ddysgu rhagor am TCIs yn nes ymlaen.

Beth yw eli steroid?

Eli steroid yw'r math mwyaf cyffredin o eli rheoli fflamychiadau.

Dysgu rhagor

Eli steroid yw'r math mwyaf cyffredin o eli rheoli fflamychiadau. 

Mae'r steroidau yn yr eli hyn fel y rhai a gynhyrchir yn naturiol gan y corff. Maent yn dda iawn am drin fflamychiadau ecsema trwy leihau cosi, a helpu dolur a chwyddo. Mae hyn yn helpu'r croen i wella'n llawer cyflymach. Nid ydynt yr un peth â'r steroidau a gymerir weithiau gan athletwyr neu adeiladwyr corff. Gelwir y rhain yn ‘steroidau anabolig’. Mae ganddynt hwy ddefnydd gwahanol iawn. Maent yn adeiladu cyhyrau ac nid ydynt yn cael eu defnyddio i drin ecsema.

Pan wyf yn cael fflamychiad, rwy'n rhoi'r eli steroid ymlaen ac mae'n ei glirio i fyny.

Tom

A yw eli steroid yn ddiogel?

Ydyn. Pan ddefnyddir eli steroid yn gywir, maent yn ddiogel iawn. Byddant yn eich helpu i reoli'ch ecsema'n gyflym.

Darllen y dystiolaeth

Yn 2019, edrychodd tîm ymchwil ar yr holl dystiolaeth wyddonol ar eli steroid*. Roedden nhw am weld pa mor ddiogel yw eli steroid i bobl eu defnyddio ar ecsema. Edrychodd y tîm ar wybodaeth a gasglwyd gan filoedd o bobl ar draws y byd mewn 36 o astudiaethau ymchwil. Edrychodd yr astudiaethau hyn ar bobl ag ecsema a oedd yn defnyddio eli steroid i drin fflamychiadau neu "therapi penwythnos" (rhagor am hyn yn ddiweddarach) i atal fflamychiadau.

Ychydig iawn o bobl a nododd sgîl-effeithiau, megis teneuo'r croen, ac roedd y rhain yn ysgafn ar y cyfan. Canfu un o’r astudiaethau mwyaf** fod llai nag 1 o bob 1000 o blant a ddefnyddiodd eli steroid ysgafn neu gymedrol am hyd at 5 mlynedd wedi profi teneuo’r croen.

Mewn astudiaethau o bobl a oedd yn defnyddio eli steroid cryf (grymus), roedd llai nag 1 o bob 100 wedi profi teneuo'r croen.

Gallwch ddysgu rhagor am deneuo'r croen a sgil-effeithiau eraill yn nes ymlaen yn adran 'cwestiynau cyffredin' y ddewislen 'Eli rheoli fflamychiadau'.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am adolygiadau ar y pwnc hwn, ewch i'r adran 'adnoddau eraill' i gael y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am ddiogelwch eli steroid.

* Pa mor ddiogel yw corticosteroidau argroenol yn cael eu defnyddio mewn ecsema atopig? Trosolwg naratif o adolygiadau systematig Emma Axon, Joanne R Chalmers, Miriam Santer, Matthew J Ridd, Sandra Lawton, Sinéad M Langan, Douglas J Grindlay, Ingrid Muller, Amanda Roberts, Amina Ahmed, Hywel C Williams, Kim S Thomas (Ar y gweill)
** Diogelwch ac Effeithiolrwydd Pimecrolimus mewn Dermatitis Atopig: Hap-dreial 5 mlyneddBardur Sigurgeirsson, Andrzej Boznanski, Gail Todd, André Vertruyen, Marie-Louise A. Schuttelaar, Xuejun Zhu, Uwe Schauer, Paul Qaqundah, Yves Poulin, Sigurdur Kristjansson, Andrea von Berg, Antonio Nieto, Mark Boguniewicz, Amy S. Paller, Rada Dakovic, Johannes Ring, Thomas Luger Pediatrics Ebr 2015, 135 (4) 597-606; DOI: 10.1542/peds.2014-1990 (Mae’r wybodaeth am deneuo’r croen i’w chael yn adran ohebiaeth y papur hwn)
*** Safety and Efficacy of Pimecrolimus in Atopic Dermatitis: A 5-Year Randomized Trial Bardur Sigurgeirsson, Andrzej Boznanski, Gail Todd, André Vertruyen, Marie-Louise A. Schuttelaar, Xuejun Zhu, Uwe Schauer, Paul Qaqundah, Yves Poulin, Sigurdur Kristjansson, Andrea von Berg, Antonio Nieto, Mark Boguniewicz, Amy S. Paller, Rada Dakovic, Johannes Ring, Thomas Luger Pediatrics Apr 2015, 135 (4) 597-606; DOI: 10.1542/peds.2014-1990 (The information about skin thinning is in the correspondence section of this paper)
 
 

Cwestiynau cyffredin ynghylch eli rheoli fflamychiadau (steroidau fel arfer)

Er eu bod yn ddiogel i'w defnyddio, rydym yn gwybod bod pobl ag ecsema weithiau'n poeni am sgil-effeithiau eli steroid. Dyma rai cwestiynau cyffredin sydd gan bobl ag ecsema ynghylch eli steroid. Cliciwch ar y cwestiynau rydych am gael gwybod rhagor amdanynt.

A yw steroidau yn ddiogel i'w defnyddio ar groen sydd wedi torri?

Ydyn. Maent yn ddiogel i'w defnyddio ar groen sydd wedi torri. Mae croen sydd wedi torri neu wedi cracio'n gyffredin mewn ecsema, ac eli steroid yw un o'r ffyrdd gorau o helpu'r croen i ddod yn ôl i gyflwr arferol. Mae taflenni gwybodaeth sy'n dod gyda eli steroid weithiau'n dweud na ellir eu defnyddio ar groen sydd wedi'i ddifrodi neu wedi'i dorri. Mae hyn oherwydd bod steroidau'n cael eu hamsugno'n haws i'r corff trwy groen wedi'i dorri. Ond os caiff peth ei amsugno, mae'n swm mor fach fel ei bod yn annhebygol iawn o gael unrhyw effaith ar y corff ac mae'n swm llawer llai o steroid nag y byddech chi'n ei dderbyn trwy'r geg ar gyfer fflamychiad gwael. Mae'n well cael rheolaeth ar yr ecsema yn gynharach gyda'r eli steroid, hyd yn oed os yw'r croen wedi'i dorri.

Roedd fy ecsema'n ofnadwy. Fe wnaeth y nyrs fy argyhoeddi i roi cynnig ar yr eli steroid yn lle eli. Roedd yn anhygoel – wnaeth e ddim pigo ac fe gliriodd yr ecsema ymhen dyddiau.

Will

A yw eli steroid yn teneuo'r croen?

Nac ydyn. Pan gânt eu defnyddio'n gywir, nid yw eli steroid yn teneuo'r croen.

Mae pobl yn aml yn poeni y bydd eli steroid yn teneuo eu croen.

Efallai eich bod wedi clywed am sgîl-effeithiau difrifol eli steroid yn y 1960au a’r 1970au. Yn ôl yn y cyfnod hwnnw, roedd eli steroid yn newydd, ac roedd llai yn hysbys am y ffordd orau i'w defnyddio. Oherwydd bod yr eli hyn mor dda am drin ecsema, rhoddwyd eli steroid cryf iawn yn anghywir i lawer o bobl i'w defnyddio'n ddi-stop dros gyfnodau hir (megis pob dydd am flwyddyn). Roedd hyn yn gwneud i'r croen ‘deneuo’.

Mae meddygon bellach yn gwybod llawer mwy am eli steroid a sut i'w defnyddio'n ddiogel heb deneuo'r croen.

A ddylai eli steroid bigo?

Gall eli steroid bigo ar y dechrau, ond bydd hyn yn diflannu'n gyflym.

Mae llawer o bobl yn cael bod eli steroid yn pigo pan ydynt yn cael eu rhoi ar y croen am y tro cyntaf. Gall hyn ddigwydd os yw'ch croen yn sych, wedi cracio, neu wedi torri oherwydd ecsema.

Fel arfer dim ond am y dyddiau cyntaf y bydd eli steroid yn pigo. Bydd hyn yn dod i ben pan fyddwch chi'n cael rheolaeth ar eich ecsema a bydd eich croen yn gwella.

Os na fydd y pigo'n diflannu ar ôl ychydig ddyddiau, yna efallai y byddwch am ddweud wrth eich meddyg. Efallai eich bod chi yn cael adwaith i gynhwysyn yn yr eli. Efallai  y bydd angen i chi roi cynnig ar eli steroid gwahanol. Gallai eli fod yn well gan eu bod yn llai tebygol o bigo.

Dywedodd y nyrs wrthyf y gallai bigo ac i ddal ati, felly fe wnes i ac ar ôl ychydig ddyddiau fe aeth i ffwrdd.

Josef

A all eli steroid oleuo, wynnu neu dywyllu'r croen?

Na allant. Nid yw eli steroid yn newid lliw eich croen.

Mae eich croen yn fwy tebygol o newid lliw mewn clytiau (mynd yn oleuach neu'n dywyllach) os na chaiff ecsema ei drin yn ddigonol. Mae fflamychiadau ecsema'n gwneud y croen yn goslyd ac yn boenus, a all newid y lliw. Gall hyn wneud i'r croen gael darnau tywyllach neu oleuach lle mae ecsema.

Gall eli steroid leihau'r siawns y bydd y croen yn newid lliw trwy eich helpu i reoli ecsema. Bydd y darnau hyn o groen goleuach neu dywyllach yn diflannu unwaith y byddwch chi'n cael rheolaeth ar ecsema, ond weithiau gall gymryd amser hir i'r croen fynd yn ôl i normal.

Weithiau mae pobl yn meddwl bod y darnau hyn yn greithiau. Mae'n anarferol iawn i ecsema greithio. Pan yw pobl ag ecsema'n cael creithiau, mae hyn fel arfer oherwydd crafu difrifol. Gallwch ddysgu rhagor am sut i ddelio â hyn yn yr adran  ‘curo’r cosi’.

Roeddwn i'n arfer cael darnau goleuach o groen ar fy mraich ond nawr bod fy ecsema dan reolaeth maen nhw wedi diflannu.

Sophie

Pryd y gallai fod angen i mi ddefnyddio eli steroid cryf?

Bydd eich meddyg neu nyrs yn rhagnodi'r cryfder a'r maint cywir i'ch helpu i reoli'ch ecsema.

Bydd yr hyn y byddant yn ei roi i chi'n dibynnu ar ba mor goslyd a dolurus yw eich croen, ac a yw’r ecsema wedi gwneud eich croen yn ‘drwchus’. Pan yw'r croen yn drwchus, gall eli steroid cryfach helpu i ddod â'r croen yn ôl i normal.

Efallai y bydd angen i chi gamu i fyny neu gamu i lawr rhwng gwahanol gryfderau eli steroid wrth i chi gael rheolaeth ar eich ecsema.

Mae rhai rhannau o'r corff yn fwy sensitif nag eraill. Y rhain yw'r wyneb, y ceseiliau, yr organau cenhedlu a'r pen ôl. Peidiwch â rhoi eli steroid cryf ar y rhannau hyn oni bai bod eich meddyg neu nyrs wedi dweud wrthych am wneud hyn. Gallwch ddysgu rhagor am eli steroid cryfder gwahanol yn nes ymlaen yn ‘dod o hyd i’r eli rheoli fflamychiadau (steroid) cywir’.

Yn y gorffennol, pan nad oedd steroidau'n cael eu defnyddio'n ddiogel, roedd rhywfaint o groen yn mynd yn deneuach, ond roedd hyn fel arfer yn mynd yn ôl i normal pan roddwyd y gorau i'r steroidau. Ar y llaw arall, mae ecsema'n niweidio'r croen os nad ydych chi'n ei drin.

A yw eli steroid yn gwneud ecsema'n waeth yn y tymor hir?

Nac ydyn, nid oes unrhyw dystiolaeth bod eli steroid yn gwneud ecsema'n waeth yn y tymor hir.

Mae llawer o bobl ag ecsema yn poeni am sut y bydd eli steroid yn effeithio ar gwrs eu hecsema. Mae rhai pobl hefyd yn poeni y gallai triniaethau ei waethygu.

Nid oes tystiolaeth bod eli steroid - nac, yn wir, unrhyw driniaeth arall ar gyfer ecsema - yn newid faint o amser y mae ecsema yn parhau, neu'n ei wneud yn waeth yn y tymor hir.

Yr hyn y mae eli steroid yn ei wneud yw eich helpu i gael rheolaeth ar ecsema.

Mae'n dda cofio bod ecsema'n niweidio'r croen os nad ydych chi'n ei drin.

A yw eli steroid yn effeithio ar dwf a datblygiad?

Nac ydyn. Ni chredir bod eli steroid yn effeithio ar dwf a datblygiad os cânt eu defnyddio fel yr argymhellir am ychydig ddyddiau neu wythnosau.

Dim ond ychydig iawn o eli sy'n cael ei amsugno i'r corff. Mae'r rhan fwyaf yn aros ar wyneb y croen.

Gellir amsugno mwy wrth ddefnyddio eli cryfach. Gall hyn ddigwydd os yw'r eli cael eu defnyddio mewn symiau mawr iawn ar draws y corff, neu ar rannau sensitif iawn o'r corff. Rhannau sensitif o'r corff yw'r wyneb, y ceseiliau, yr organau cenhedlu a'r pen ôl.

Am y rheswm hwn, dim ond am ychydig ddyddiau neu wythnosau y defnyddir eli steroid. Os oes angen i chi eu defnyddio bob dydd am fwy na 4 wythnos, byddai'n dda siarad â'ch meddyg neu nyrs.

A all fy nghroen ddod yn ddibynnol ar eli steroid?

Mae’r wybodaeth yn y wefan hon wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddefnyddio eli steroid yn ddiogel. Yn anaml, mae adweithiau croen wedi’u hadrodd ar ôl defnydd hirdymor o eli steroid, y cyfeirir ato fel ‘diddyfnu steroid argroenol’, ‘syndrom croen coch’ neu ‘gaethiwed steroid argroenol’.

Mae'n ddiogel defnyddio eli steroid am ychydig wythnosau neu dros amser hwy gyda seibiannau byr. Ond gall yr adweithiau croen prin hyn ddigwydd pan yw pobl wedi bod yn defnyddio eli steroid bob dydd heb egwyl.

Mae'n gyffredin i ecsema ddychwelyd neu ail-gychwyn yn fuan ar ôl rhoi'r gorau i eli steroid. Ond os yw'r fflamychiad yn ymddangos yn ddifrifol neu os ydych chi wedi bod yn defnyddio eli steroid bob dydd ers amser maith, siaradwch â'ch meddyg, nyrs neu fferyllydd.

Mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr croen yn canfod nad ydynt yn aml yn gweld pobl sy'n defnyddio gormod o eli steroid. Ond maent yn aml yn gweld ecsema sy'n waeth nag y dylai fod oherwydd nad oes digon o eli steroid wedi'u defnyddio.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran ‘adnoddau eraill’ yn adran ‘rhagor am driniaethau’ y wefan hon, gan gynnwys gwybodaeth gan y Gymdeithas Ecsema Genedlaethol, Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain ac Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU.

Pryd i ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau

Os nad ydych chi'n siŵr a oes angen eli rheoli fflamychiadau arnoch chi, neu os nad ydych chi erioed wedi cael presgripsiwn am y rhain o'r blaen ond eich bod yn credu bod arnoch eu hangen, yna siaradwch â'ch meddyg neu nyrs am hyn.

Pryd ddylwn i ddechrau defnyddio eli rheoli fflamychiadau?

Mae'n well dechrau defnyddio eli rheoli fflamychiadau cyn gynted ag y byddwch yn sylwi ar darddiad Bydd hyn yn eich helpu i gael rheolaeth yn gyflym. Bydd yn helpu i atal y fflamychiad rhag gwaethygu, a bydd yn gwneud iddo fynd i ffwrdd yn gyflymach.

 

Awgrym gwych!

Mae'n syniad da cadw eli rheoli fflamychiadau sbâr yn y tŷ bob amser. Mae hyn yn golygu y gallwch chi drin unrhyw darddiadau'n gyflym cyn gynted ag y byddant yn dechrau. Bydd hyn yn eich helpu i gael rheolaeth yn gynt.

Beth yw fflamychiad?

Fflamychiad yw pan yw'r croen yn fwy dolurus neu goslyd nag arfer. Mewn croen goleuach, gall fflamychiad ecsema wneud i'r croen edrych yn goch. Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy.

Mewn croen tywyllach, gall fflamychiad ecsema wneud i'r croen edrych yn llwyd, porffor neu frown.

example of eczema flare-up example of eczema flare-up example of eczema flare-up example of eczema flare-up

example of eczema flare-up

Canfyddwch beth allwch chi ei wneud os byddwch chi'n rhedeg allan o eli rheoli fflamychiadau ac yn methu cyrraedd eich meddyg neu nyrs

Mae dau fath o eli rheoli fflamychiadau y gallwch eu prynu yn y fferyllfa heb bresgripsiwn. Nhw yw:

  • Eli hydrocortisone 1%. Mae hwn yn eli steroid ysgafn.
  • Eumovate (clobetasone butyrate 0.05%). Mae hwn yn eli steroid cymedrol.

I gael yr eli hyn bydd angen i chi siarad â'r fferyllydd. Dim ond mewn tiwbiau bach y byddwch chi'n gallu prynu'r rhain. Bydd y fferyllydd yn gofyn i chi siarad â’ch meddyg yn gyntaf os ydych yn bwriadu defnyddio’r eli:

  • Ar rannau sensitif o'r corff fel y llygaid, yr wyneb, y ceseiliau, y pen ôl neu'r organau cenhedlu
  • Ar blant dan 10 oed (hydrocortisone)
  • Ar blant dan 12 oed (Eumovate)

Os ydych chi'n prynu eich eli steroid eich hun yna dylech weld eich meddyg neu nyrs i siarad am y ffordd orau o gael rheolaeth ar eich ecsema oni bai eich bod eisoes wedi siarad â nhw am brynu eli steroid fel hyn.

Am faint o amser y dylwn i ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau?

Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio eli rheoli fflamychiadau fel y rhagnodir. I'r rhan fwyaf o bobl, bydd hyn yn golygu:

1. Unwaith y dydd yn ystod fflamychiad ac am 2 ddiwrnod ar ôl i'r croen ddychwelyd i normal.

Dysgu rhagor

Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau unwaith y dydd pan ydynt yn cael fflamychiad. Mae'n well parhau i ddefnyddio'r eli rheoli fflamychiadau am ddau ddiwrnod ar ôl i'r croen ddychwelyd i normal a theimlo'n feddal. Weithiau gall ecsema fod o dan y croen hyd yn oed pan yw'n ymddangos yn iawn. Bydd defnyddio'r eli am ddau ddiwrnod arall yn helpu i sicrhau eich bod yn trin y cyfan.

2. Fel arfer mae'n cymryd 5-7 diwrnod i gael rheolaeth

Dysgu rhagor

Ar gyfer fflamychiad ecsema ysgafn, fel arfer mae'n cymryd 5-7 diwrnod i gael rheolaeth. Ar gyfer darn mwy trwchus o ecsema neu darddiad mwy difrifol gall gymryd ychydig wythnosau. Os oes angen i chi ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau am fwy na 4 wythnos, yna byddai'n dda trafod hyn gyda'ch meddyg.

Efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu 'therapi penwythnos os yw eich ecsema'n ddifrifol a'ch bod yn cael fflamychiadau'n aml.

Beth yw therapi penwythnos?

Mae therapi penwythnos yn golygu defnyddio eli rheoli fflamychiadau ddau ddiwrnod yr wythnos ar y rhannau sy'n cael ecsema'n aml. Gall hyn fod unrhyw 2 ddiwrnod yn yr wythnos. Gall hyn helpu i atal y rhannau hyn rhag cael cymaint o darddiadau. Felly bydd angen llai o eli rheoli fflamychiadau arnoch yn y tymor hir.

Defnyddir therapi penwythnos pan yw ecsema eisoes dan reolaeth ond mewn perygl o gael fflamychiad. Os ydych chi'n meddwl bod eich ecsema yn ddifrifol a rydych chi'n cael fflamychiadau'n aml, yna fe allech chi drafod therapi penwythnos gyda'ch  meddyg neu nyrs.

Wrth ddefnyddio therapi penwythnos, mae dal angen i chi ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau unwaith y dydd os ydych chi'n profi fflamychiad.

Roeddwn i'n cael fflamychiadau drwy'r amser, felly dywedodd y meddyg wrthyf am wneud therapi penwythnos - gan ddefnyddio eli steroid cwpl o weithiau'r wythnos. Mae wedi bod yn llawer gwell ers hynny.

Aditya

Faint o eli rheoli fflamychiadau ddylwn i ei ddefnyddio?

Nid yw llawer o bobl  yn siŵr faint o eli rheoli fflamychiadau i'w wisgo. Fel canllaw bras, defnyddiwch haen denau, dim ond digon i orchuddio ardal y fflamychiad ecsema..

Defnyddio gormod

Weithiau mae pobl yn defnyddio mwy o eli rheoli fflamychiadau i geisio gwneud i ecsema ddiflannu'n gyflymach. Mae astudiaethau'n dangos bod defnyddio eli rheoli fflamychiadau unwaith y dydd pan fydd eu hangen arnoch yr un mor effeithiol ag yn amlach.

Defnyddio rhy ychydig

Mae rhai pobl yn defnyddio rhy ychydig o eli rheoli fflamychiadau. Nid yw hyn yn well i'ch croen ac ni fydd yr eli gweithio'n dda fel hyn. Gallai olygu bod angen i chi ddefnyddio mwy yn y tymor hir.

Beth yw'r ffordd orau o ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau?

Mae'n syniad da i olchi'ch dwylo - efallai bod bacteria arnyn nhw a allai waethygu'ch fflamychiad neu achosi heintio.washing hands

Defnyddiwch symudiadau i lawr, i'r un cyfeiriad ag y mae'r gwallt yn tyfu. Peidiwch â'i rwbio i mewn, oherwydd gall rhwbio wneud i chi deimlo'n goslyd.
Rhowch haen denau o eli ar y mannau sy'n profi fflamychiad (neu os ydych chi’n defnyddio ‘therapi penwythnos’, ar rannau sydd fel arfer yn profi fflamychiadau).
Mae'n ddiogel rhoi eli steroid ar groen sydd wedi torri. Gallai hyn bigo ar y dechrau, ond bydd hyn yn dod i ben wrth i'r croen wella. 

A thin layer of cream applied to the skin

Golchwch yr eli oddi ar eich dwylo pan ydych wedi gorffen, oni bai bod gennych ecsema ar eich dwylo. Y rheswm am hyn yw mai dim ond ar y rhannau sydd ei angen y dylid defnyddio eli rheoli fflamychiadau.

 

A ddylwn i barhau i ddefnyddio eli lleithio?

Dylech. Bydd angen i chi barhau i ddefnyddio eli lleithio (moisturising) bob dydd i gadw rheolaeth ar eich ecsema. Bydd hyn yn helpu i leddfu'r croen ac atal fflamychiadau eraill.  Cliciwch y blychau am atebion i rai cwestiynau cyffredin am ddefnyddio eli lleithio a eli rheoli fflamychiadau gyda'i gilydd.

A oes angen i mi adael bwlch rhwng rhoi ar bob eli?

Mae'n well gadael bwlch rhwng defnyddio eli rheoli fflamychiaddau a eli lleithio.

Mae hyn yn caniatáu i'r eli socian i mewn oherwydd gall eli lleithio ddyfrio'r eli rheoli fflamychiadau gan wneud iddo weithio'n waeth.

Mae'r rhan fwyaf o feddygon yn awgrymu gadael bwlch o 20-30 munud rhwng y ddwy driniaeth.

Ym mha drefn y mae angen i mi eu gosod?

Does dim ots ym mha drefn rydych chi'n eu gosod.

Mae rhai pobl yn dewis rhoi eli rheoli fflamychiadau ymlaen yn y bore a eli lleithio ymlaen gyda'r nos cyn iddynt fynd i'r gwely.

Mae'n well gan bobl eraill eu defnyddio ar adegau penodol yn ystod y dydd. Mae rhai pobl yn hoffi rhoi eli lleithio ymlaen yn syth ar ôl bath neu gawod ac yna rhoi eli rheoli fflamychiadau ymlaen yn nes ymlaen. Beth bynnag sy'n gweithio i chi!

Rwyf yn gosod larymau ar gyfer y gwahanol eli i'm hatgoffa i'w rhoi nhw ymlaen felly dw i ddim yn anghofio!'

Lauren

Mathau a chryfderau eli rheoli fflamychiadau

Mae gwahanol fathau a chryfderau o eli rheoli fflamychiadau. Gall deimlo’n rhwystredig pan nad yw ecsema’n gwella hyd yn oed pan ydych yn defnyddio’r triniaethau fel y dywedwyd wrthych am ei wneud. Mae'r adran hon yn edrych ar sut y gallwch ddod o hyd i eli rheoli fflamychiadau sy'n iawn i chi. Fel arfer eli steroid fydd hwn. Cliciwch ar y pynciau rydych am gael gwybod rhagor amdanynt.

Pa wahanol eli rheoli fflamychiadau sydd ar gael (e.e. eli, elïau)?

Mae eli steroid yn dod mewn elïau, eli neu geliau. Efallai y bydd eich meddyg neu nyrs yn rhagnodi eli pan yw eich ecsema'n sych neu oherwydd bod elïau yn aros ar y croen am fwy o amser. Maent yn dryloyw ac yn debyg i gel. Oherwydd eu bod yn seimllyd byddant yn helpu i ychwanegu lleithder i'ch croen.

Nid yw rhai pobl yn hoffi teimlad elïau. Efallai y byddai’n well ganddyn nhw ‘eli’. Mae eli wyn ac yn cynnwys llawer o ddŵr. Maent yn ysgafn ac yn oeri. Gallant deimlo’n haws i’w defnyddio, ond weithiau mae pobl yn teimlo bod eli ‘pigo’ yn fwy nag elïau ar groen sydd wedi torri. Mae hefyd geliau steroid arbennig neu hylifau y gellir eu defnyddio i drin ecsema ar groen pen. Gall y rhain helpu os byddwch chi'n profi pen coslyd, yn arbennig gyda'r nos.

Y peth pwysig yw dod o hyd i driniaeth sy'n iawn i chi. Weithiau mae’r un eli steroid ar gael fel mathau gwahanol, felly efallai y byddai’n werth gofyn i’ch meddyg neu nyrs os ydych chi’n hoffi math penodol yn fwy nag eraill.

Roeddwn i wir yn casáu'r elli. Roedden nhw'n pigo pan oeddwn i'n eu rhoi arnaf. Es i at y meddyg a rhoddodd hi eli i mi. Roedd hynny'n llawer gwell. 

Oliver

Pa gryfderau eli steroid sydd ar gael?

Mae eli steroid yn dod mewn pedwar cryfder gwahanol (grymoedd). Y rhain yw:

Ysgafn | Cymedrol | Cryf (grymus) | Cryf iawn (grymus iawn)

Mae cryfder eli steroid yn dibynnu ar sut y cafodd ei wneud. Mae gwahanol fathau o steroidau'n cael eu gwneud o wahanol flociau adeiladu cemegol, gan wneud rhai'n gryfach nag eraill. Mae hyn yn golygu na allwch chi ddweud pa mor gryf yw eli steroid trwy edrych ar ba % o steroid sydd gan yr eli ynddo.

Bydd eich meddyg neu nyrs yn rhagnodi'r cryfder cywir o eli i'ch helpu i reoli'ch ecsema. Fel arfer caiff ecsema ysgafn ei drin ag eli neu eli ysgafn. Bydd angen eli neu eli cryfach ar ecsema cymedrol neu ddifrifol, neu ecsema nad yw'n gwella.

Os nad ydych chi'n siŵr pa mor gryf yw eich eli steroid, siaradwch â’ch fferyllydd, meddyg neu nyrs.

Pa gryfder eli steroid ddylwn i ei ddefnyddio?

Mae ecsema ysgafn fel arfer yn cael ei drin ag eli steroid ysgafn, megis hydrocortisone. Bydd angen eli cryfach ar ecsema cymedrol neu ddifrifol, neu ecsema nad yw'n gwella.

Mae croen ar yr wyneb, ceseiliau, organau cenhedlu a phen ôl yn fwy sensitif. Dim ond eli steroid ysgafn neu gymedrol y dylid eu defnyddio yn y rhannau hyn oni bai bod eich meddyg wedi dweud rhywbeth arall wrthych. Gallai hyn ddigwydd os yw eich ecsema yn eithaf gwael yn yr ardaloedd hyn, a bod angen triniaeth gryfach arno i'w reoli.

Ar y llaw arall, bydd angen eli steroid cymedrol i gryf ar rannau croen trwchus megis cledrau, gwadnau'r traed a chroen y pen er mwyn iddynt weithio.

Bydd eich meddyg yn rhagnodi eli steroid â chryfder (grym) cywir i'ch helpu i reoli'ch ecsema. Efallai y byddwch yn cael mwy nag un eli steroid i drin ecsema mewn gwahanol rannau o'r corff. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa un i'w ddefnyddio a ble. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, siaradwch â'ch fferyllydd neu cysylltwch â'ch meddyg neu nyrs.

Pryd ddylwn i newid i gryfder eli steroid gwahanol?

Pryd ddylwn i newid i gryfder eli steroid gwahanol?

Dylech bob amser ddefnyddio'r eli steroid ysgafnaf a fydd yn trin eich fflamychiad ecsema. Wrth i chi gael rheolaeth ar eich ecsema, efallai y bydd angen i chi gamu i lawr rhwng gwahanol gryfderau eli steroid nes bod eich ecsema yn ôl dan reolaeth.

Os nad yw eich ecsema'n gwella, efallai y bydd angen i chi newid i eli steroid cryfach.

Os ydych chi'n credu bod angen i chi newid i eli steroid â chryfder gwahanol, dylech chi siarad â'ch meddyg i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y cryfder cywir. Mae'n bwysig iawn eich bod ond yn defnyddio'r eli ar y person y mae wedi'i ragnodi ar ei gyfer. Fel arfer rhoddir eli steroid gwahanol i fabanod, plant ac oedolion.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i ddarllen y labeli ar ddeunydd pecynnu eich triniaethau yn yr adran 'adnoddau eraill' y gallwch ei chyrraedd o'r bar dewislen uchod.

Rheolau euraidd ar gyfer defnyddio eli rheoli fflamychiadau

I gael rheolaeth

Eli rheoli fflamychiadau (eli steroid fel arfer)

Beth yw eu pwrpas?

Mae'r eli hyn yn cael eu defnyddio i gael rheolaeth ar ecsema. Nhw yw:

•    Fe'u defnyddir i drin croen poenus a choslyd

•    Fe'u rhagnodir fel arfer ac fel arfer maent yn eli steroid (corticosteroidau argroenol). Weithiau maent yn TCIs (Topical Calcineurin Inhibitors)

Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl ag ecsema ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau ar ryw adeg. 

Pryd?

Defnyddiwch nhw cyn gynted ag y mae fflamychiad yn cychwyn.

Pa mor aml?

Yn ystod fflamychiad, defnyddiwch haen denau unwaith y dydd nes bod yr ecsema dan reolaeth. 

Faint i'w ddefnyddio?

Fel canllaw bras, defnyddiwch haen denau, dim ond digon i orchuddio ardal y fflamychiad ecsema.

Am faint o amser?

Defnyddiwch nhw am dau ddiwrnod ar ôl i'r ecsema ddod dan reolaeth. Os oes angen i chi ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau am fwy na 3 neu 4 wythnos, yna byddai'n dda trafod hyn gyda gweithiwr iechyd proffesiynol.

Ydyn nhw'n ddiogel?

Ydyn. Mae astudiaethau'n dangos bod eli rheoli fflamychiadau'n ddiogel pan gânt eu defnyddio gan ddilyn y cyfarwyddiadau uchod. Dylid eu rhoi ar y croen yr effeithir arno yn unig. Fe'u defnyddir fel arfer am ychydig ddyddiau neu wythnosau ar y tro.

Dyma ddiwedd yr adran eli rheoli fflamychiadau. Cliciwch yma i weld yr adran ar eli lleithio neu gallwch bori'r ddewislen ar frig y dudalen.