Skip to main content

Croeso i'r adran deiet ac alergedd!

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • A fyddai osgoi bwydydd penodol yn helpu fy ecsema?
  • Sut ydw i'n gwybod a oes gen i alergedd bwyd?
  • A ddylwn i gael prawf alergedd?
  • Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n credu bod gen i alergedd bwyd?

A fyddai osgoi bwydydd penodol yn helpu fy ecsema?

Mae deiet iach a chytbwys yn bwysig i gadw'ch croen a'ch corff yn iach. Mae'r cyngor arferol am ba fwyd i'w fwyta fel rhan o ddeiet iach yr un peth ar gyfer pobl ag ecsema.

Mae llawer o bobl ag ecsema'n poeni y dylen nhw osgoi rhai bwydydd. Ond fel arfer mae pobl yn cael nad yw hyn yn gwneud gwahaniaeth. Mae pethau, megis sebon, yn fwy tebygol o waethygu'ch ecsema.

Mae gan un o fy ffrindiau ecsema a dywedodd wrthyf am dorri cynnyrch llaeth. Fe'i gwnaeth a dywedodd ei fod wedi helpu ei hecsema. Ceisiais ei dorri am oddeutu 6 wythnos ond ni wnaeth unrhyw wahaniaeth o gwbl i fy ecsema. Nid oedd yn llawer o hwyl i'w wneud ychwaith

Ellie

Gall nifer fach o bobl ag ecsema gael adwaith i rai bwydydd. Mae dau fath o adwaith bwyd:

1. Alergedd bwyd

Mae alergedd bwyd yn digwydd pan yw eich corff yn ymateb yn syth i rai bwydydd rydych chi wedi'u bwyta. Efallai y byddwch chi'n dechrau gwichian, yn cael poen bol, neu'n taflu i fyny. Gallai eich wyneb chwyddo neu gallech gael lympiau (llosg dynad) ar eich croen. Gall eich ecsema hefyd gychwyn yn ystod neu'n fuan ar ôl adwaith.

Mae alergeddau bwyd ychydig yn fwy cyffredin mewn pobl ag ecsema, ond nid ydynt yn achosi ecsema yn y rhan fwyaf o achosion. Mae'n fwy tebygol bod ecsema mewn babanod yn eu gwneud yn fwy tebygol o gael alergedd bwyd yn ddiweddarach, nid fel arall.

2. Adweithiau gohiriedig i fwyd a allai wneud eich ecsema'n waeth

Mae nifer fach o bobl ag ecsema yn canfod bod rhai bwydydd yn gallu gwaethygu eu hecsema. Mae hwn yn fath gohiriedig o alergedd bwyd. Mae adweithiau'n digwydd 1-2 ddiwrnod ar ôl i chi fwyta'r bwyd, yn hytrach nag yn syth. Mae'r adweithiau hyn yn cael eu hachosi gan ran wahanol o system imiwnedd y corff nag alergeddau bwyd. Mae'n anoddach profi am adweithiau gohiriedig.

Bydd yr ychydig dudalennau nesaf yn rhoi cyngor i chi ar sut y gallwch chi wybod a oes gennych alergedd bwyd neu a yw rhai bwydydd yn gwaethygu'ch ecsema.

Cliciwch ar fotwm isod i ganfod a allai fod gennych un o'r ddau fath o adwaith:

 

A oes gennyf adwaith gohiriedig i fwyd sy'n gwaethygu fy ecsema?

Efallai fod gennych adwaith gohiriedig i rai bwydydd os:

  • Mae eich ecsema bob amser yn gwaethygu 2 ddiwrnod ar ôl bwyta'r bwydydd hyn. Nid yw eich ecsema'n gwella ar ôl defnyddio eli rheoli fflamychiadau a eli lleithio'n rheolaidd.
  • Efallai y byddwch am roi cynnig ar ddefnyddio eli lleithio fwy na 4 gwaith y dydd a eli rheoli fflamychiadau unwaith y dydd. Os nad yw'ch ecsema yn gwella ar ôl gwneud hyn am 2 wythnos, yna mae'n werth ymchwilio i adwaith gohiriedig i fwydydd.

Mae adweithiau gohiriedig yn annhebygol o wneud eich ecsema'n waeth os:

  • Dechreuodd eich ecsema ar ôl i chi fod yn 2 flwydd oed
  • Nid yw eich ecsema'n rhy wael neu mae'n effeithio ar rannau bach o'r corff yn unig

A oes gennyf alergedd bwyd?

Efallai fod gennych alergedd bwyd os:

  • Rydych chi'n gwichian neu'n cael anhawster anadlu'n syth ar ôl bwyta bwyd penodol. Efallai y byddwch hefyd yn cael pinnau bach yn y geg neu gefn y gwddf, gwefusau neu dafod chwyddedig, bod yn sâl, neu'n llewygu. Os cewch unrhyw un o'r problemau hyn, rhaid i chi alw am ambiwlans ar unwaith i gael cyngor meddygol brys.
  • Mae gennych chi ddarnau coslyd a chwyddedig a brech fel pigiad danadl yn syth ar ôl bwyta neu gyffwrdd â bwyd penodol. Os bydd hyn yn digwydd, ni ddylech fwyta'r bwyd hwn nes eich bod wedi siarad â'ch meddyg amdano.

Dylech chi ymweld â'ch meddyg os ydych chi'n credu bod gennych alergedd bwyd.

Pa fwydydd allwn i adweithio iddynt?

Pysgnau, llaeth ac wyau yw'r bwydydd mwyaf cyffredin sy'n achosi adweithiau

Ymhlith y bwydydd eraill a all achosi alergedd mae gwenith, pysgod, pysgod cregyn, cnau coed, soia, corbys a rhai ffrwythau.

A ddylwn i gael prawf alergedd?

Nid yw profion alergedd yn dda iawn am ddarganfod beth sy'n gwaethygu ecsema.

Mae hyn oherwydd mai dim ond ar gyfer alergeddau bwyd sy'n ymddangos yn syth y mae profion alergedd yn gweithio'n dda. Nid ydynt fel arfer yn ddefnyddiol ar gyfer adweithiau gohiriedig i fwydydd sy'n digwydd gyda rhai pobl ag ecsema.

Nid yw profion alergedd o'r Rhyngrwyd neu'r Stryd Fawr yn gywir.

Beth ddylwn i ei wneud os credaf fod gennyf alergedd bwyd neu adwaith gohiriedig i fwyd?

Gall y rhan fwyaf o bobl reoli eu hecsema trwy ddefnyddio digon o eli lleithio a eli ar gyfer rheoli tarddiadau. Ond, dylech chi weld eich meddyg os ydych chi'n credu bod gennych chi alergedd bwyd. Efallai y byddwch am roi cynnig ar yr her fwyd os ydych chi'n credu eich bod yn profi adwaith gohiriedig pan yw eich ecsema'n gwaethygu 1-2 ddiwrnod ar ôl bwyta rhai bwydydd.

Dysgu rhagor am yr her fwyd 

Pa fwydydd eraill allai effeithio ar fy ecsema?

Gall rhai bwydydd wneud ecsema'n waeth oherwydd bod ganddynt bethau ynddynt sy'n llidio'r croen, yn hytrach nag achosi adwaith alergaidd. Er enghraifft, gall mefus, ffrwythau sitrws (e.e. orennau), a thomatos achosi tarddiad ecsema ar yr wyneb os ydynt yn cyffwrdd â’ch croen, neu os yw’r poer yn aros ar y croen.

Gall rhoi eli lleithio ar yr wyneb a'r gwddf cyn ac ar ôl bwyta'r bwydydd hyn helpu gyda hyn.

Mae rhai pobl yn cael bod alcohol yn gallu gwaethygu eu hecsema. Mae hyn oherwydd bod alcohol yn agor y gwythiennau bach yn eich croen sy'n cario'ch gwaed, a all wneud i chi gosi mwy.

Cliciwch ar yr enwau isod i ddarllen straeon gan bobl eraill ag ecsema:

Stori Priyanka

Roeddwn i'n mynd yn wallgof gyda'r holl awgrymiadau gwahanol ar gyfer pethau i'w torri allan. Ar rai dyddiau roedd fy ecsema'n iawn ac yna roedd yn waeth eto.

Weithiau roeddwn i’n meddwl y gallwn i weld patrwm o’r hyn oedd yn achosi i'm croen gychwyn ac yna byddwn i'n profi tarddiad ac ni allwn i ddod o hyd i reswm. Felly dechreuais gadw dyddiadur bwyd a chanfod nad oedd patrwm mewn gwirionedd gyda'r hyn yr oeddwn i'n ei fwyta.

Erbyn hyn rwy'n credu ei fod yn bennaf oherwydd mai anghofio defnyddio fy lleithydd bob dydd sy'n achosi tarddiad.

Stori Tariq

Y llynedd yn ystod amser arholiadau, aeth fy ecsema'n ddrwg iawn. Darllenais ar-lein y dylech dorri cynnyrch llaeth allan gan y gall wneud eich ecsema'n waeth. Felly penderfynais dorri cynnyrch llaeth allan yn gyfan gwbl - caws, llaeth, wyau, popeth! Gwnes i hyn am 4 wythnos a chefais fod fy ecsema wedi gwella. Fe wnes i barhau i beidio â bwyta llaeth, ond roedd hynny'n dod yn fwyfwy anodd cadw i fyny!

Fis yn ddiweddarach, sylwais fod fy ecsema yn ôl eto, cynddrwg ag yr oedd o'r blaen. Cefais brawf alergedd gan fy meddygon, ond ni ddaeth hwn o hyd i unrhyw beth yr oedd gennyf alergedd iddo. Fe wnaeth fy meddyg a minnau ddarganfod rhai adegau pan fyddai fy ecsema'n gwaethygu. Roedd yn bennaf yn y gaeaf neu yn ystod amser arholiadau. Nawr rwy'n gwybod beth sy'n gwneud fy ecsema yn waeth, rwy'n gwneud yn siŵr fy mod yn defnyddio llawer mwy o eli lleithio yn ystod yr amseroedd hyn. Yn hytrach na thorri gwahanol fwydydd allan, rwy'n ceisio bwyta'n iach ac yfed digon o ddŵr.

A ddylwn i gymryd atchwanegiadau bwyd?

Mae atchwanegiadau bwyd yn dabledi, hylifau neu bowdrau sy'n cynnwys maetholion y gallwch chi eu hychwanegu at ddeiet arferol. Er enghraifft, fitaminau.

Nid oes tystiolaeth ymchwil glir i ddangos bod atchwanegiadau bwyd yn helpu ag ecsema.

Awgrym gwych!

Fe welwch chi ddolenni i ragor o wybodaeth am y pynciau hyn yn yr adran ‘adnoddau eraill’, y gallwch eu cael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.