Skip to main content

Croeso i'r adran astudio a gwaith

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Awgrymiadau ymarferol ar gyfer rheoli'ch ecsema yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu waith
  • Rheoli ecsema yn ystod amser arholiadau
  • Gyrfaoedd ac ecsema

Gall llawer o bobl ei chael yn her anodd gofalu am eu hecsema pan ydyn nhw yn yr ysgol, coleg, prifysgol, neu waith.

Ni ddylai ecsema eich atal rhag gwneud yn dda a mwynhau'r rhannau hyn o'ch bywyd.

Bydd yr ychydig dudalennau nesaf yn rhoi rhai awgrymiadau i chi ar reoli'ch ecsema yn yr ysgol, coleg, prifysgol, a gwaith.

Rheoli'ch ecsema yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu waith

Fe wnaethom ofyn i bobl ag ecsema am eu hawgrymiadau ar sut i reoli ecsema yn yr ysgol, coleg, prifysgol, a gwaith. Cliciwch ar y blychau isod i ganfod beth ddywedon nhw.

Ali, myfyriwr Ysgol

Mae fy ysgol yn llym iawn ynghylch gadael y dosbarth ac rwy'n ei chael yn anodd rhoi fy eli arnaf yn y toiledau gan fod llawer o fy ecsema ar rannau o fy nghorff sydd o dan fy nillad. Felly, rwy'n gwneud yn siŵr fy mod i'n codi'n gynnar i roi fy eli arnaf cyn mynd i'r ysgol a'u rhoi arnaf eto cyn gynted ag y bydda i'n cyrraedd adref.

Emily, Yn gweithio'n llawn amser

Mae'n rhaid i mi bob amser gynllunio pryd rwyf yn rhoi fy eli arnaf oherwydd rwy'n ei chael yn anodd ysgrifennu neu ddefnyddio'r cyfrifiadur yn syth wedyn.

Alex, myfyriwr prifysgol

Mae'r tybiau y mae fy eli lleithio'n dod ynddyn nhw'n enfawr ac yn edrych yn feddygol iawn. Felly, yn ystod y dydd, rwy'n hoi fy eli mewn tiwbiau bach sy'n gallu ffitio'n hawdd yn fy mag. Mae'r tiwbiau'n edrych fel tiwbiau arferol o leithyddion, felly mae pobl yn meddwl fy mod i'n gwisgo eli dwylo neu ochdrwyth corff.

Anika, myfyriwr Ysgol

Rwy'n rhoi fy eli lleithio arnaf yn y toiledau yn ystod amser egwyl neu rhwng gwersi. Rwyf hefyd yn eu defnyddio yn lle sebon, oherwydd mae'r sebon ysgol bob amser yn gwneud i fy ecsema fflamychu.

Mo, myfyriwr Ysgol

Rwy'n gadael fy eli yn ystafell feddygol fy ysgol ac yn mynd yno i roi fy eli arnaf yn ystod yr egwyliau.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â'ch athro, darlithydd, cyflogwr neu adran adnoddau dynol am eich ecsema. Gallai hyn eu helpu i ddeall sut mae ecsema'n effeithio arnoch chi, pryd mae angen i chi ddefnyddio eli, a pham y gallai fod angen amser i ffwrdd arnoch ar gyfer apwyntiadau meddyg.

I gael awgrymiadau ar sut i ddelio â straen yn yr ysgol, coleg, prifysgol a gwaith, gweler yr adran ‘straen ac ecsema’. Gallwch ddod o hyd i'r adran hon drwy'r ddewislen 'byw ag ecsema' uchod.

Mae hefyd adran ar ‘nofio a gweithgareddau corfforol’ i gael cyngor ar sut i ddelio â gwneud gweithgareddau corfforol. Gallwch chi gyrraedd yr adran hon drwy’r ddewislen ‘beth all wneud ecsema yn waeth’ uchod.

Pan ddechreuais i weithio, roeddwn i'n poeni ychydig y byddai fy rheolwr yn meddwl fy mod i'n osgoi gwaith os oedd rhaid i mi adael y swyddfa i roi fy eli arnaf. Felly, gwnes i'n siŵr i mi ddweud wrtho am fy ecsema ar fy niwrnod cyntaf ac roedd yn hollol iawn ag ef.

Olivia
circle

Cliciwch yma i brintio taflen y gallwch chi ei rhoi i bobl i egluro ecsema

Rheoli ecsema yn ystod amser arholiadau

Mae llawer o bobl yn canfod bod eu hecsema'n gwaethygu yn ystod amser arholiadau. Mae hyn oherwydd y gall straen achosi fflamychiad ecsema.

Dyma rai awgrymiadau da ar gyfer rheoli ecsema yn ystod amseroedd arholiadau:

  • Byddwch yn barod - Dechreuwch eich adolygu'n gynnar a'i ledaenu. Mae hyn yn osgoi unrhyw baratoi munud olaf, a all achosi mwy o straen i chi.
  • Cymerwch amser i 'dawelu' – gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i ffwrdd o astudio i ymlacio. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar yr adran ‘straen ac ecsema’, sydd â gwahanol dechnegau ymlacio y gallwch chi roi cynnig arnynt.
  • Bwytewch ddeiet iach a chael digon o gwsg - gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu am eich corff, yn ogystal â'ch meddwl, fel bod gennych lawer o egni a'ch bod yn teimlo'ch gorau! Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, edrychwch ar yr adran ‘cysgu’, y gallwch ei chyrraedd o’r ddewislen ‘byw’n dda ag ecsema’ uchod.
  • Dywedwch wrth eich athro neu ddarlithydd fod gennych ecsema, fel y gallan nhw fod yn ddeallgar a chymwynasgar lle bynnag y bo angen. Gallen nhw wneud yn siŵr bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch mewn arholiadau. Ni ddylai ecsema eich atal rhag gwneud eich gorau.
  • Gwisgwch ddillad cotwm llac yn ystod arholiadau a gofynnwch am gael eistedd mewn ardal awyrog ac oer o'r ystafell - mae hyn yn eich atal rhag mynd yn rhy boeth a chwyslyd, a all wneud eich ecsema'n waeth.

Josef, myfyriwr Coleg

Fy nghyngor i fyddai siarad â'ch athrawon neu ddarlithwyr am gael amser ychwanegol ar gyfer arholiadau a gwneud hyn cyn gynted â phosibl. Ar gyfer fy arholiadau diwethaf, wnes i ddim trafferthu crybwyll dim wrth fy narlithwyr gan fod fy ecsema'n iawn. Ond wedyn, ar y diwrnod, fe ges i fflamychiad drwg iawn ac roedd hi'n rhy hwyr wedyn i ofyn am fwy o amser. Rwy'n meddwl ei bod yn dda cael yr opsiwn yno, rhag ofn.

Jessica, myfyriwr Ysgol

Mae gen i ecsema ar fy nwylo ac rwy'n ei chael yn anodd ysgrifennu am gyfnodau hir o amser. Siaradais â fy athro am hyn a threfnodd ef i mi gael amser ychwanegol yn ystod arholiadau. Mae hyn yn rhoi seibiant i fy nwylo rhag ysgrifennu ac yn golygu bod gennyf amser i roi eli arnaf os yw fy nwylo'n mynd yn sych ac yn goslyd.

Mia, myfyriwr Prifysgol

Fisoedd cyn fy arholiadau, rwy'n gofyn a allaf ddefnyddio cyfrifiadur i ysgrifennu yn ystod arholiadau neu rwy'n gofyn am ysgrifennydd sy'n gallu ysgrifennu i mi.

Gyrfaoedd ac ecsema

Ni ddylech fyth adael i ecsema eich atal rhag gwneud y swyddi rydych am eu gwneud. Ond mae’n werth cofio y gallai rhai swyddi wneud eich ecsema'n waeth.

Gall swyddi sy'n cynnwys llawer o gysylltiad â dŵr a chemegau wneud ecsema'n waeth. Mae rhai pobl ag ecsema'n ei chael yn anodd gwneud swyddi sy'n cynnwys llawer o olchi dwylo. Er enghraifft, trin gwallt neu weithio gyda bwyd. Gall rhai swyddi gyda chyswllt â chleifion, megis nyrsio, hefyd fod yn anodd i bobl ag ecsema drwg neu ecsema dwylo. Yn y swyddi hyn, bydd angen i chi ddod o hyd i ffyrdd o amddiffyn eich dwylo a'ch croen.

Ni chaniateir i'r rhan fwyaf o gyflogwyr eich trin yn wahanol oherwydd bod gennych ecsema. Dylen nhw ganiatáu i chi ofalu am eich ecsema yn y gwaith. Ond efallai na fydd rhai cyflogwyr, megis y lluoedd arfog, yr heddlu a’r gwasanaeth tân, yn gallu cymryd pobl ag ecsema gwael iawn.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi drafod eich opsiynau gyda chynghorydd gyrfaoedd.