Skip to main content

Croeso i'r adran Topical Calcineurin Inhibitors (TCIs)!

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Beth yw Topical Calcineurin Inhibitors (TCIs)?
  • Ydyn nhw'n ddiogel?
  • Sut maen nhw'n cael eu defnyddio?
  • A ellir eu defnyddio gyda thriniaethau ecsema eraill?

Beth yw Topical Calcineurin Inhibitors (TCIs)?

Fe wnaethom esbonio yn yr adran gyflwyno bod dau fath o eli ar gyfer rheoli fflamychiadau - eli steroid a TCIs (Topical Calcineurin Inhibitors). Mae TCIs yn eli neu elïau. Mae dau fath a elwir yn aml wrth eu henwau brand:

  • Protopic (tacrolimus)
  • Elidel (pimecrolimus)

Weithiau defnyddir TCIs ar gyfer rhannau o groen sensitif, megis canol yr wyneb neu'r amrannau. Fel arfer fe'u rhoddir dim ond i bobl sydd:

  • angen defnyddio eli i reoli fflamychiad bob dydd er mwyn cadw rheolaeth
  • dan ofal arbenigwr croen yn yr ysbyty.

Ni ddylid defnyddio TCIs os ydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron neu os oes gennych gyflwr iechyd sy'n gwneud system amddiffyn eich corff yn wan.

Sut mae TCIs yn gweithio?


Mae system amddiffyn y corff yn gweithio mewn ffordd wahanol mewn pobl ag ecsema. Mae’n ‘gor-ymateb’ i bethau na fyddai fel arfer yn ein niweidio, megis sebonau a hylif golchi llestri.

Fel eli steroid, mae TCIs yn gweithio trwy dawelu system amddiffyn y corff er mwyn lleihau fflamychiadau. Fel eli steroid, nid yw TCIs yn iachâd ar gyfer ecsema. Maent ond yn eich helpu i gael rheolaeth ar eich ecsema wrth eu defnyddio ynghyd ag eli lleithio.

A yw TCIs yn ddiogel?

Nid yw TCIs wedi bod ar gael cyhyd â eli steroid. Mae'n ymddangos eu bod yn ddiogel, ond nid yw'n hysbys eto beth allai eu sgil-effeithiau hirdymor fod. Am y rheswm hwn fe'u defnyddir yn llawer llai na eli steroid.

Gall TCIs bigo neu gosi pan gânt eu rhoi ar y croen gyntaf. Mae hyn yn tueddu i setlo i lawr ar ôl wythnos. Mae rhai eli TCI yn pigo mwy nag eraill. Felly efallai y byddwch chi am ofyn i'ch meddyg neu nyrs a allwch chi roi cynnig ar eli TCI arall os yw'ch un chi'n pigo llawer.

Gall y rhan o'r croen y mae'r TCIs yn cael eu rhoi arno fynd yn goch neu deimlo'n goslyd neu'n gynnes. Gall rhai pobl gael smotiau coch poenus ar ôl defnyddio TCIs. Dylai'r smotiau hyn setlo ar eu pennau eu hunain.

Mae siawns fach y gallech chi gael briwiau annwyd ar y rhan o'r croen y mae'r TCIs yn cael eu rhoi arni yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl eu defnyddio.

Sut mae TCIs yn cael eu defnyddio?

Mae TCIs yn cael eu rhoi ar groen ag ecsema, fel arfer ddwywaith y dydd i ddechrau. Gellir gostwng hyn i unwaith y dydd ar ôl ychydig wythnosau. Bydd eich meddyg, nyrs neu fferyllydd yn dweud wrthych chi pa mor aml a phryd y bydd angen i chi eu rhoi arnoch. Mae angen haen denau. Dylid eu defnyddio nes bod y fflamychiad ecsema wedi diflannu. Ni ddylid rhoi TCIs:

  • i fyny'r trwyn, yn y geg neu ar y mannau cenhedlol mewnol
  • ar rannau heintiedig o'r croen
  • ar groen ag impetigo, brech yr ieir, briwiau annwyd neu ddafadennau.

Gallai wneud y cyflyrau hyn yn waeth. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y cyflyrau hyn yn yr adran ‘heintiau’, y gallwch ei chael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.

Gall TCIs adweithio yng ngolau'r haul neu olau uwchfioled (UV). Ceisiwch osgoi aros allan mewn golau haul cryf neu ddefnyddio goleuadau UV. Mae hyn yn cynnwys triniaethau goleuadau ar gyfer ecsema. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am driniaethau goleuadau yn yr adran ‘triniaethau eraill’, y gallwch ei chael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.

A ellir defnyddio TCIs gyda eli lleithio?


Gellir. Bydd angen i chi barhau i ddefnyddio eli lleithio bob dydd i gadw rheolaeth ar eich ecsema.

Mae'n well gadael bwlch o 20 i 30 munud rhwng rhoi TCIs a eli lleithio arnoch. Mae hyn oherwydd y gall yr eli lleithio ddyfrio'r TCI gan wneud iddo weithio'n waeth.

Os ydych chi'n defnyddio Protopic (tacrolimus), byddai'n well gadael bwlch o 2 awr os gallwch chi. Ond, rydym yn sylweddoli y gall hyn fod yn anodd ei wneud.

A ellir defnyddio TCIs gyda eli steroid?

Gellir, efallai y bydd eich arbenigwr croen yn rhoi hufennau steroid a TCIs i chi i'w rhoi ar eich ecsema. Yn aml, rhaid rhoi'r ddau hufen hyn ar wahanol rannau o'r corff.

Weithiau, os yw eich ecsema'n wael, efallai y bydd eich arbenigwr croen yn gofyn i chi ddefnyddio hufennau steroid ar y penwythnos a TCIs yn ystod yr wythnos.