Skip to main content

Croeso i adran curo'r cosi!

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Pam mae ecsema yn gwneud i mi gosi?
  • Beth mae crafu'n ei wneud i'm croen?
  • Sut alla i guro'r cosi?
  • Awgrymiadau ymarferol a fydd yn eich helpu i beidio â chrafu.

Cosi a chrafu

Pam mae ecsema yn gwneud i mi gosi?

Pan ddaw croen i gysylltiad â phethau y mae'n credu eu bod yn niweidiol, mae'n rhyddhau cemegau naturiol, megis histamin. Mae'r cemegau hyn yn gwneud i'r croen gosi.

Mewn pobl heb ecsema, mae'r cemegau hyn yn diflannu ar ôl ychydig ac mae'r cosi'n dod i ben. Mewn pobl ag ecsema, mae'r cemegau hyn yn cael eu rhyddhau o hyd ac rydych chi'n parhau i deimlo'n goslyd.

Beth mae crafu'n ei wneud i'm croen?

Gwneir cosi hyd yn oed yn waeth trwy grafu neu rwbio. Mae hyn oherwydd bod crafu'n gwneud i'ch croen gredu ei fod dan ymosodiad, sy'n gwneud iddo ryddhau mwy o gemegau. Mae hyn yn gwneud i chi deimlo hyd yn oed yn fwy coslyd, sy'n gwneud i chi fod eisiau crafu mwy! Gelwir hyn yn gylch cosi-crafu.

Gall crafu niweidio'ch croen hefyd. Gall hyn wneud iddo waedu neu adael i fygiau ddod i mewn fel ei fod yn cael ei heintio. Mae croen wedi'i ddifrodi hefyd yn gadael i bethau sy'n achosi fflamychiadau ecsema basio trwodd yn hawdd, megis sebon neu bowdr golchi.

Gall croen sydd wedi'i ddifrodi gosi wrth iddo wella. Gall hyn ychwanegu at y cylch cosi-crafu.

Sut alla i guro'r cosi?

Yn anffodus, rydych chi'n debygol o ddal i gosi o bryd i'w gilydd, ni waeth pa mor dda rydych chi'n gofalu am eich ecsema. Ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i wneud i'ch croen deimlo'n llai coslyd ac atal eich hun rhag crafu. Bydd yr adran hon yn eich helpu i wneud hyn.

Sut mae rheoli fy ecsema?

Bydd angen i chi ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau os ydych chi'n cael fflamychiad. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth yn yr adran ‘cael rheolaeth ar eich ecsema gan ddefnyddio hufennau rheoli fflamychiadau’.

Bydd hufennau lleithio'n atal eich croen rhag sychu ac mae croen sych yn arwain at groen coslyd. Gall yr hufen lleithio cywir deimlo'n esmwythol. Hefyd, bydd mwytho'r croen yn ysgafn yn lleddfu rhywfaint o'r cosi. Rhowch gynnig ar gadw'r hufen yn yr oergell i weld a yw hyn yn helpu.

Sut mae gwneud fy hun yn gyfforddus?

  • Cadwch yn oer – Defnyddiwch gynfasau cotwm plaen a duvet tenau yn y nos. Bydd dillad llac yn helpu i'ch cadw'n oer. Mae rhai pobl yn ei chael yn ddefnyddiol cadw'r ystafell yn oer yn y nos. Er enghraifft, rhoi'r gwres canolog yn isel neu gael ffan yn yr ystafell wely.
  • Cadwch yn brysur – Gall tynnu'ch sylw eich hun drwy chwarae gêm gyfrifiadurol neu fynd allan i rywle eich helpu i anghofio am y cosi.
  • Rhowch gynnig ar bath neu gawod oer – Mae mynd yn rhy boeth yn gwneud cosi yn waeth. Gallai bath neu gawod oer wneud rhyfeddodau i leddfu'r cosi. Patiwch eich hun yn sych yn ofalus a defnyddiwch hufen lleithio ar ôl y bath neu'r gawod.
  • Rhowch gynnig ar wasgu lliain oer, pecyn gel oeri, neu fag o bys wedi'u rhewi wedi'u lapio mewn tywel ar y rhan o'r croen sy'n cosi.

Sut alla i roi'r gorau i grafu?

Dyma rai awgrymiadau a allai'ch helpu i roi'r gorau i grafu:

  • Rhowch gynnig ar wisgo menig neu ddyrnfolau cotwm pan ydych yn teimlo'n goslyd neu am amser gwely.
  • Cadwch eich ewinedd yn fyr, gan wneud yn siŵr nad oes ymylon miniog, i gyfyngu ar y difrod i'w groen pan ydych yn crafu.
  • Gallai fod yn ddefnyddiol gweld a ydych chi'n crafu ar adegau penodol o'r dydd, megis wrth wylio'r teledu, a dod o hyd i rywbeth arall i'w wneud. Efallai y byddwch chi am geisio ysgrifennu'r amseroedd o'r dydd y gwnaethoch chi grafu a'r hyn yr oeddech yn ei wneud pan wnaethoch chi grafu.
  • Ceisiwch wneud dwrn am 30 eiliad yn lle crafu.
  • Mae rhai pobl yn ei chael yn ddefnyddiol dal y man cosi neu bwyso i lawr arno yn hytrach na'i grafu.
  • Mae rhai pobl ag ecsema hefyd yn ei chael yn ddefnyddiol ‘tapio’ yr ardal goslyd gyda blaenau bysedd, neu ‘awelu’ aer oer ar y croen gyda ffan neu bapur.

 

Sut gall y wefan hon fy helpu i roi'r gorau i grafu?

  • Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fynd i’r adran ‘emosiynau ac ecsema’ i gael gwybod am rai technegau ymlacio y gallwch eu defnyddio i dynnu'ch sylw eich hun a goresgyn yr ysfa i grafu. Gallwch ddod o hyd i'r adran hon yn y ddewislen 'byw'n dda gydag ecsema' uchod.
  • Rydych chi'n fwy tebygol o gosi pan nad ydych chi'n cysgu'n dda. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fynd i’r adran ‘cwsg ac ecsema’ i gael cyngor ar sut i gael noson dda o gwsg.
  • Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wrth-histaminau ac a ydynt yn ddefnyddiol ar gyfer ecsema coslyd yn yr adran ‘triniaethau eraill’.