Skip to main content

Croeso i'r adran ecsema ac arian!

Mae rhai costau'n gysylltiedig ag ecsema. Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • A fydd yn rhaid i mi dalu am fy nhriniaethau?
  • Sut gallaf leihau costau fy nhriniaethau?
  • A yw cynnyrch cosmetig a nwyddau ymolchi yn well os ydynt yn costio mwy?

A fydd yn rhaid i mi dalu am bresgripsiynau'r GIG?

Mae Presgripsiynau’r GIG ar gyfer eli a thabledi triniaeth am ddim os ydych:

  • dan 16 oed
     
  • 16-18 oed ac mewn addysg amser llawn (e.e., ysgol, coleg)
     
  • yn feichiog neu wedi cael babi yn y 12 mis diwethaf.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael presgripsiynau am ddim os ydych chi, eich partner, neu'ch rhieni eisoes yn cael budd-daliadau ariannol gan y llywodraeth. Mae dolenni i ragor o wybodaeth am y budd-daliadau hyn yn yr adran ‘adnoddau eraill’, y gallwch eu cyrraedd o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.

Os nad yw'r un o'r rhain yn berthnasol i chi, yna bydd yn rhaid i chi dalu am eli a thabledi'ch triniaeth. Mae ffyrdd y gallwch gadw'r costau hyn i lawr.

Os oes angen i mi dalu am bresgripsiynau, sut gallaf wneud hyn yn rhatach?

Os ydych chi'n gwybod y bydd yn rhaid i chi dalu am lawer o driniaethau, efallai y bydd yn rhatach i chi brynu Tystysgrif Rhagdalu Presgripsiynau. Mae hon fel ‘tocyn tymor’ ar gyfer eich presgripsiynau.

Mae'n cynnwys eich holl driniaethau a ragnodir gan feddyg neu nyrs y GIG am ychydig o bunnoedd yr wythnos. Mae'n eich diogelu am bresgripsiynau ar gyfer pob problem iechyd, nid ecsema yn unig.

Efallai y byddwch chi am ystyried cael y dystysgrif hon os oes angen mwy nag 1 driniaeth ragnodedig arnoch bob mis. Os ydych chi'n dueddol o fod angen llai o driniaethau na hyn, yna efallai na fydd yn rhatach i chi Byddai'n well talu am bob triniaeth unigol.

Mae rhagor o wybodaeth am faint mae’r tystysgrifau hyn yn ei gostio, a fyddai’n werth i chi gael un, a sut i gael un yn yr adran ‘adnoddau eraill’, y gallwch ei chael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod. Gallech chi hefyd drafod hyn gyda'ch fferyllydd.

Gofynnais i'm meddyg ragnodi twb mawr o eli lleithio i mi. Pan gânt eu rhagnodi, mae tybiau mawr yn dod ar yr un pris â rhai bach. Mae hefyd yn golygu nad oes angen i mi ofyn am bresgripsiynau mor aml. Rwy'n rhoi rhywfaint o'r eli mewn cynhwysydd llai i'w gwneud yn haws i'w gario gyda mi.

Alisha

A yw cynnyrch cosmetig a nwyddau ymolchi yn well os ydynt yn costio mwy?

Mae llawer o bobl yn meddwl po fwyaf y mae cynnyrch cosmetig a nwyddau ymolchi'n ei gostio, y gorau y byddant i'ch croen. Mewn gwirionedd, nid yw'r pris yn gwneud llawer o wahaniaeth.

Mae'n bwysicach edrych ar yr hyn sydd yn y cynnyrch. Mae llawer o gynnyrch cosmetig a nwyddau ymolchi'n cynnwys pethau fel persawr neu gemegau eraill a allai wneud eich ecsema'n waeth.

Fel arfer mae gan gynhyrchion sy’n ‘hypoalergenig’ neu sydd ar gyfer ‘croen sensitif’ lai o bersawr ynddynt a gallant lidio’ch croen yn llai. Ond eto, ni chafodd y cynhyrchion hyn eu gwneud ar gyfer pobl ag ecsema, felly mae'n anodd dweud yn sicr na fyddant yn gwaethygu'ch ecsema.

Mae'n well defnyddio eli lleithio a argymhellir gan eich meddyg, nyrs neu fferyllydd.

Mae croen pawb yn wahanol ac mae rhai pobl yn gweld bod rhaid iddynt roi cynnig ar lawer o wahanol gynhyrchion i ddod o hyd i rywbeth sy'n addas i'w hecsema. Gallai hyn fod y cynnyrch rhataf yn y pen draw.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddod o hyd i’r cynhyrchion iawn i chi yn yr adran ‘cynnyrch cosmetig, colur ac eillio’, y gallwch ei chael o’r ddewislen ‘beth all wneud ecsema yn waeth’ uchod.