Skip to main content

Croeso i'r adran nofio a gweithgareddau corfforol!

Gall mynd yn chwyslyd weithiau wneud i ecsema fflamychu (flare ups) neu ei wneud yn waeth, ond nid oes angen i chi adael i hynny eich rhwystro. Mae nofio ac ymarfer corff yn wych i'ch iechyd ond efallai y bydd angen cynllunio ychwanegol ar gyfer pobl ag ecsema.

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Awgrymiadau ar sut i gymryd rhan mewn ymarfer corff a gweithgareddau
     
  • Beth sydd angen i mi ei wneud wrth fynd i nofio?

Nid oes unrhyw ymarfer corff na chwaraeon y tu hwnt i'ch gallu. Nid oes rhaid i ecsema eich rhwystro rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau yr ydych yn eu mwynhau.

Awgrymiadau ar sut i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol

  • Cymerwch gawod ar unwaith neu cyn gynted ag y gallwch ar ôl gweithgaredd - mae hyn yn helpu i olchi chwys i ffwrdd a all wneud ecsema'n waeth.
  • Gwisgwch ddillad llac.
  • Gwisgwch ffabrigau meddal, llyfn ac anadladwy, megis cotwm. Mae hyn yn fwy caredig i'ch croen na dillad campfa, megis lycra, a allai wneud eich croen yn rhy boeth.
  • Os ydych chi fel arfer yn defnyddio eli lleithio mwy trwchus, ceisiwch ddefnyddio un ysgafnach cyn gweithgareddau. Mae eli lleithio ysgafnach yn cymryd llai o amser i sychu a gallwch barhau i ddefnyddio eich eli eraill yn eich trefn ddyddiol arferol.
  • Mae rhai chwaraeon neu weithgareddau yn cynnwys llwch neu bethau a allai wneud ecsema yn waeth. Er enghraifft, dod i gysylltiad â phaill a glaswellt wrth chwarae mewn cae neu ffwr anifeiliaid wrth farchogaeth. Gall fod yn ddefnyddiol defnyddio eli lleithio ysgafn cyn y chwaraeon neu'r gweithgareddau hyn.

Mae gen i groen wedi'i dorri - beth ddylwn i ei wneud?

Gall croen sydd wedi'i dorri fod yn boenus pan ddaw i gysylltiad â chwys. Un ffordd o ddelio â hyn yw atgyweirio'r croen sydd wedi'i dorri gan ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eli rheoli fflamychiadau yn yr adran ‘eli rheoli fflamychiadau’. Gallwch gyrraedd yr adran hon o’r ddewislen uchod.

Weithiau pan wyf yn cyrraedd adref yn hwyr rwy'n anghofio gwisgo fy eli a rwy'n sylwi fod fy ecsema yn waeth drannoeth. Felly cyn i mi fynd allan rwy'n eu rhoi nhw ger fy ngwely fel nad wyf yn anghofio nhw pan wyf yn cyrraedd adref.

Kat

Beth sydd angen i mi ei wneud wrth fynd allan neu fynd i ddawnsio?

Os ydych chi'n mynd i leoedd gorlawn neu'n mynd i ddawnsio, gall fod yn ddefnyddiol defnyddio eli lleithio ysgafn ymlaen llaw i amddiffyn eich croen rhag chwys. Mae hefyd yn dda cael cawod wedyn i atal eich croen rhag mynd yn rhy boeth a golchi unrhyw chwys i ffwrdd. Gallai hefyd fod o gymorth i wisgo haenau o ddillad anadladwy tenau.

Beth sydd angen i mi ei wneud wrth fynd i nofio?

Mae llawer o bobl ag ecsema yn mwynhau nofio ond gall sychu'r croen. Un ffordd o ddelio â hyn yw trwy wisgo eli lleithio cyn nofio ac ar ôl nofio.

Nid oes angen i chi ddefnyddio haen drwchus o eli lleithio, dim ond digon i amddiffyn y croen. Ar ôl nofio, gall fod yn ddefnyddiol cael cawod yn syth, patio'r croen yn ofalus, a defnyddio eli lleithio cyn gwisgo. Peidiwch ag aros i gyrraedd adref i roi eich eli lleithio arnoch gan y bydd eich croen wedi sychu erbyn hynny. Rhowch gynnig ar yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Gall dŵr croyw a dŵr hallt hefyd wneud i groen wedi'i dorri losgi. Os oes gennych chi groen wedi'i dorri, mae'n bwysig defnyddio eli rheoli fflamychiadau i gadw'ch croen mewn cyflwr da ar gyfer nofio.

A yw clorin yn ddrwg i'm croen?

 

Mae gan rai pyllau nofio fwy o glorin nag eraill. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael fflamychiad ar ôl nofio mewn pwll ar wyliau ond byddwch yn iawn mewn pyllau eraill.

Os ydych yn cael fflamychiad gwael ar ôl nofio, efallai y bydd yn help i chi aros nes bod eich croen yn well cyn ceisio eto.

A yw nofio yn y môr yn iawn?

Dylai nofio yn y môr fod yn iawn cyn belled â'ch bod yn defnyddio eli lleithio cyn nofio ac yn rinsio'r dŵr hallt i ffwrdd wedyn.

Mae rhai pobl hyd yn oed yn gweld bod dŵr hallt yn helpu eu hecsema. Ond gall dŵr môr ddal i lidio neu bigo'ch croen. Gall hyn fod yn waeth os yw'r croen wedi torri neu wedi cracio.

Gallwch chi hefyd edrych ar ein hadran ‘tywydd a gwyliau’ i gael gwybodaeth am gadw’n ddiogel yn yr haul a dewis eli haul. Gallwch chi gyrraedd yr adran hon o’r ddewislen ‘beth all wneud ecsema yn waeth’ uchod.