Skip to main content

Croeso i'r adran siarad â gweithwyr iechyd proffesiynol!

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Pryd ddylwn i weld gweithiwr iechyd proffesiynol am fy ecsema?
  • Pryd mae angen i mi weld arbenigwr croen ar gyfer fy ecsema?
  • Sut gallaf gael y gorau o'm hapwyntiadau gyda'r meddyg neu'r nyrs?
  • Pryderon cyffredin ynghylch siarad â'ch meddyg neu nyrs
  • Sut gall fferyllydd helpu?
  • Cael presgripsiynau amlroddadwy

Pryd ddylwn i weld gweithiwr iechyd proffesiynol am fy ecsema?

Gyda'r holl wybodaeth ar y wefan hon, byddwch yn gwybod llawer am sut i gael rheolaeth a chadw rheolaeth ar eich ecsema. Ond efallai y bydd adegau o hyd pan fydd angen cymorth ychwanegol arnoch.

Efallai y bydd angen i chi weld eich meddyg, nyrs, neu fferyllydd os:

  • Rydych chi'n poeni am eich ecsema.
  • Mae gennych chi frech nad yw'n edrych fel ecsema.
  • Rydych chi wedi bod yn rhoi cynnig ar driniaeth newydd ac nid yw'n ymddangos ei fod yn helpu ar ôl ei ddefnyddio fel y cyfarwyddir am o leiaf wythnos

Efallai y byddwch chi hefyd am weld eich meddyg neu nyrs os:

  • Rydych chi'n ansicr sut i ddefnyddio unrhyw un o'ch triniaethau. Gallai hefyd fod o gymorth i roi cynnig ar ein hadrannau ar ‘eli lleithio’ a ‘eli rheoli fflamychiadau’ o’r ddewislen uchod. Efallai y bydd eich fferyllydd hefyd yn gallu eich cynghori os oes gennych gwestiynau am driniaethau ecsema.
  • Mae eich ecsema yn grensiog neu'n diferu. Os yw hyn yn digwydd, mae'n bosibl bod eich ecsema wedi'i heintio.

Sut olwg sydd ar groen heintiedig?

Bydd ecsema heintiedig yn fwy dolurus nag arfer. Mewn croen goleuach, gall ecsema heintiedig edrych yn fwy coch nag arfer. Mewn croen tywyllach, gall edrych yn fwy llwyd, porffor neu frown nag arfer.

Gallai'r croen hefyd ddechrau diferu a ffurfio crystiau melyn. Weithiau gallwch chi weld pothelli gwyn neu felyn, neu smotiau crawn o dan y croen.

Dylech chi weld eich meddyg os:

  • mae'r cochni neu'r newidiadau yn eich croen yn lledu
  • mae'r haint yn boenus
  • mae gennych dwymyn neu rydych yn sâl.

infected eczema  infected eczema   infected eczema 

 

Dylech chi weld eich meddyg yr un diwrnod os:

  • Rydych chi'n dechrau cael llawer o bothelli ar eich croen, fel dolur annwyd yn lledaenu'n gyflym iawn. Os bydd hyn yn digwydd, dylech chi weld eich meddyg neu fynd i'r ysbyty yr un diwrnod. Cliciwch ar y blwch isod i ddysgu rhagor am beth yw'r pothelli hyn a sut olwg sydd arnyn nhw.

Beth yw'r pothelli hyn a sut olwg sydd arnynt?

Gall y pothelli hyn fod yn arwydd o gyflwr difrifol posibl o'r enw Ecsema herpeticum. Mae'r cyflwr hwn yn cael ei achosi gan y feirws dolur annwyd. Gall pobl ag ecsema gael doluriau annwyd cwbl arferol. Ond weithiau gall y feirws dolur annwyd heintio rhannau helaeth o'r croen.

Efallai fod y cyflwr hwn gennych chi os oes gennych:

  •  tymheredd uchel
  • llawer o bothelli sy'n lledaenu'n gyflym ar draws y croen.

Mae cyflyrau eraill sy'n achosi pothellu nad ydynt yn ddifrifol. Ond gall fod yn anodd dweud y gwahaniaeth. Felly, ewch i weld eich meddyg teulu neu ewch i'r ysbyty yr un diwrnod os oes gennych unrhyw amheuaeth.

eczema herpeticum

 

Pryd mae angen i mi weld arbenigwr croen ar gyfer fy ecsema?

Mae'r rhan fwyaf o bobl ag ecsema'n cael eu gweld gan eu meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall yn eu meddygfa. Mae practisau meddygon teulu yn delio â llawer o ecsema. Fel arfer, ni fydd angen i chi weld arbenigwr. Ond efallai y bydd angen i chi wneud hynny os yw eich ecsema'n achosi llawer o broblemau.

Bydd arbenigwyr croen fel arfer yn ddermatolegydd, nyrs dermatoleg, neu feddyg teulu â diddordeb arbennig mewn dermatoleg.

Efallai y byddwch am fynd yn ôl at eich meddyg teulu os ydych yn teimlo bod eich ecsema'n achosi problemau gwirioneddol i chi. Mewn llawer o bractisau, gallwch chi ofyn am weld meddyg gwahanol yn eich practis os yw'n well gennych.

Fel arfer bydd rhaid i chi fynd trwy eich meddygfa i weld arbenigwr, hyd yn oed os ydych chi'n dymuno gweld arbenigwr preifat

Arhosais am amser hir i weld y dermatolegydd ac erbyn hynny roedd yr ecsema yn iawn. Dywedodd wrthyf fod y triniaethau yr oedd y meddyg teulu wedi'u rhoi i yn amlwg yn gweithio ac i barhau.

Ellie

A fydd fy meddyg teulu yn fy anfon at arbenigwr croen?

Bydd eich meddyg teulu fel arfer yn eich anfon at arbenigwr croen os:

  • Nid ydynt 100% yn siŵr mai ecsema yw cyflwr eich croen.
  • Rydych chi'n defnyddio eli lleithio a eli rheoli fflamychiadau, ond nid yw'ch ecsema yn gwella. Fel arfer, mae hyn yn wir os ydych chi'n cael adweithiau gwael i lawer o wahanol leithyddion.

Dywedodd y derbynnydd wrthyf fod gan un o'r meddygon teulu yn fy mhractis ddiddordeb arbennig mewn problemau croen felly nawr rwyf i bob amser yn ceisio ei gweld pan wyf am siarad am yr ecsema.

James

Sut gallaf gael y gorau o'm hapwyntiadau gyda fy meddyg neu nyrs?

Mae llawer o wybodaeth sydd ei hangen ar bobl ag ecsema. Fel arfer dim ond 10 munud y byddwch chi'n eu cael gyda'ch meddyg, a all deimlo'n rhy fyr.

Gall y wefan hon eich helpu i gael y wybodaeth bwysicaf am ecsema. Yna gallwch chi ddefnyddio'ch apwyntiadau gyda'ch meddyg neu nyrs i ganolbwyntio ar y problemau penodol rydych chi'n eu cael.

Roedd yr ecsema'n ymddangos fel peth bach. Felly, roeddwn i'n arfer gofyn am y peth pan oeddwn i'n gweld y meddyg am rywbeth arall. Ond rwy'n meddwl mai dyna pam roedd hi'n ymddangos yn frysiog a heb ddiddordeb. Nawr rwy'n gwneud apwyntiad dim ond i drafod yr ecsema.

Grace

Cofnod triniaeth

Rydym wedi creu cofnod triniaeth. Gallai eich helpu i siarad â'ch meddyg neu nyrs am eich triniaethau. Gallwch ei llenwi a mynd ag ef gyda chi y tro nesaf y byddwch yn gweld eich meddyg neu nyrs. Gallwch hefyd ofyn i'ch meddyg neu nyrs eich helpu i'w lenwi os oes unrhyw beth rydych yn ansicr yn ei gylch.

circle

Cliciwch yma i lawrlwytho'ch cofnod triniaeth

Awgrymiadau

  • Gall fod o gymorth os byddwch yn mynd gyda syniad clir o'r hyn rydych yn gobeithio ei gael o'r apwyntiad. Ysgrifennwch 2 neu 3 o'r cwestiynau pwysicaf cyn i chi fynd.
  • Dewch â’r triniaethau a ddefnyddiwch gyda chi neu restr neu lun ohonyn nhw – efallai y bydd eich meddyg yn gofyn i chi am hyn.
  • Bydd llawer o bractisau meddygon teulu'n caniatáu i chi drefnu apwyntiad dwbl gyda'ch meddyg teulu os ydych yn teimlo bod gennych lawer i'w drafod. Gallwch chi hefyd fynd yn ôl at eich meddyg teulu os oes angen rhagor o gyngor neu driniaethau arnoch.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn a oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall. Er enghraifft, ‘Allwch chi ddweud hynny eto? 'Dydw i ddim yn deall o hyd’ neu ‘A gaf i wirio fy mod wedi deall yr hyn a ddywedoch chi?’
  • Peidiwch â bod ofn gofyn am y camau nesaf. Er enghraifft, ‘Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd i weithio?’ neu ‘Pryd ddylwn i ddod yn ôl?’
  • Rhowch wybod i'r meddyg os oes gennych unrhyw bryderon am eich triniaethau - mae llawer o driniaethau ecsema gwahanol y gallwch chi roi cynnig arnynt. Mae'n bwysig dod o hyd i driniaeth sy'n gweithio i chi.
  • Gwnewch nodiadau - Gofynnwch i'r meddyg neu'r nyrs ysgrifennu'r pwyntiau allweddol a ddywedwyd ganddynt, gwnewch nodiadau eich hun, neu gofynnwch i aelod o'r teulu neu ffrind gymryd nodiadau ar eich rhan. Mae hyn yn ei gwneud yn haws cofio beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.
  • Os yw'ch ecsema yn wirioneddol yn eich poeni, dywedwch wrth y meddyg neu'r nyrs - gall fod yn anodd iddynt ddeall faint mae eich ecsema yn effeithio arnoch mewn apwyntiad byr.

Pryderon cyffredin ynghylch siarad â gweithwyr iechyd proffesiynol

Cliciwch ar y blychau isod i ddarganfod yr atebion i rai pryderon cyffredin am eli lleithio:

Rwyf bob amser yn mynd yn nerfus pan wyf yn siarad â fy meddyg neu nyrs

Mae llawer o bobl yn mynd yn nerfus wrth weld y meddyg neu'r nyrs. Gall paratoi cyn i chi fynd eich helpu i deimlo'n fwy hyderus. Dyma rai awgrymiadau ar siarad â’ch meddyg neu nyrs a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

  • Cyrhaeddwch mewn da bryd ar gyfer eich apwyntiad. Bydd hyn yn gadael i chi eistedd am ychydig funudau cyn i chi fynd i mewn i dawelu eich hun a meddwl am yr hyn rydych am ei ddweud.
  • Gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau am eich iechyd yn y fan a’r lle. Mae’n iawn os oes angen mwy o amser arnoch i feddwl am bethau a dod yn ôl rhywbryd arall.
  • Nid yw i gyd yn ymwneud â’ch croen a’ch triniaethau – gallwch chi hefyd siarad â’ch meddyg neu nyrs am sut mae ecsema yn gwneud i chi deimlo a sut y gallai fod yn effeithio ar eich bywyd bob dydd.
  • Pan ydych yn gwneud eich apwyntiad, gofynnwch am gael gweld meddyg o'r un rhyw â chi os byddai hyn yn gwneud i chi deimlo'n fwy cyfforddus. Os oes meddyg y mae'n haws i chi siarad ag ef, gallwch chi ofyn i'r derbynnydd a allwch ei weld. Gallwch chi hefyd ofyn i'r derbynnydd a oes gan unrhyw un o'r meddygon neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill ddiddordeb arbennig mewn ecsema.
  • Gallwch chi weld y meddyg neu'r nyrs ar eich pen eich hun os dymunwch. Does dim rhaid i chi gael aelod o'r teulu neu ffrind yno. Ond, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi eu cael yno i'ch cefnogi ac i'ch helpu i gofio'r hyn a ddywedodd y meddyg neu'r nyrs.

Nid yw'r triniaethau y mae'r meddyg neu'r nyrs yn eu rhoi i mi'n gweithio!

Gall gymryd peth amser i ddod o hyd i'r triniaethau cywir i chi. Mae hyn oherwydd bod gwahanol eli yn addas ar gyfer gwahanol bobl. Efallai y canfyddwch fod rhaid i chi roi cynnig ar ychydig o eli gwahanol cyn i chi ddod o hyd i un sy'n helpu.

Mae rhai pobl ag ecsema yn cael y broses hon yn rhwystredig. Gall fod yn hawdd teimlo nad oes dim byd y mae eich meddyg neu nyrs yn ei roi i chi'n gweithio. Ond mae'n werth cadw ato - yr eli hyn yw'r ffordd orau o gael a chadw rheolaeth ar eich ecsema.

Efallai y byddwch am roi cynnig ar yr ‘her 2 wythnos’ o’r ddewislen ar frig y dudalen.

Nid oedd fy meddyg yn fodlon rhoi’r eli yr oeddwn ei eisiau i mi – pam?

Gallwch chi ofyn i'ch meddyg am wahanol eli, ond efallai na fyddant bob amser yn gallu rhoi'r union un rydych chi ei eisiau i chi. Mae hyn oherwydd bod gan feddygon restr o eli y gallant eu rhoi i'w cleifion.

Os nad yw'r eli rydych chi ei eisiau ar y rhestr hon, yna fel arfer ni allant ei roi i chi. Mae'n debygol y byddant yn gallu rhoi un tebyg iawn i chi.

Os nad ydych chi'n hapus â'r eli tebyg hwn, efallai y gallwch chi brynu'r eli yn y fferyllfa neu ar-lein.

Beth am gyngor gan fferyllwyr?

Mae fferyllwyr yn arbenigwyr hyfforddedig mewn defnyddio meddyginiaethau. Mae hyn yn cynnwys eli ac elïau ar gyfer ecsema. Gallan nhw:

  • rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio triniaethau
  • gwerthu rhai eli triniaeth heb bresgripsiwn gan feddyg neu nyrs
  • rhoi cyngor a gwybodaeth am eli haul, cynnyrch cosmetig, a chynhyrchion golchi
  • rhoi cyngor ar ecsema a chroen sych.

Gallwch fynd i’r adran ‘ecsema ac arian’ i ddysgu rhagor am gael help i dalu am eich presgripsiynau. Gallwch gyrraedd yr adran hon o’r ddewislen ‘byw’n dda gydag ecsema’ uchod.

Sut ydw i'n sicrhau nad ydw i'n rhedeg allan o'm triniaethau?

Gall defnyddio eli lleithio bob dydd helpu i gadw rheolaeth ar eich ecsema. Felly, mae'n bwysig cael mwy o eli gan eich meddyg neu nyrs mewn da bryd cyn i chi redeg allan.

Gallwch chi ofyn i'ch meddyg, nyrs, neu fferyllydd am dybiau mawr 500g/ml o eli lleithio. Byddai hyn yn lleihau faint o weithiau y mae'n rhaid i chi archebu triniaeth newydd.

Os ydych chi wedi defnyddio eli rheoli fflamychiadau o'r blaen, efallai y byddai'n dda cadw rhywfaint o hwn yn y tŷ. Bydd hyn yn gadael i chi ddelio â fflamychiadau yn gynnar.

Rwy'n tueddu i archebu presgripsiwn amlroddadwy pan fydd hanner y driniaeth ar ôl gennyf.

Lewis

Sut i gael presgripsiynau amlroddadwy?

Mae presgripsiwn yn cael ei ysgrifennu gan eich meddyg. Mae'n dweud wrth y fferyllydd pa driniaethau sydd eu hangen arnoch. Mae angen i chi fynd â'r presgripsiwn hwn at fferyllydd i gasglu'ch triniaethau. Neu gall eich meddyg ei anfon yn electronig.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi sefydlu presgripsiynau amlroddadwy. Mae presgripsiwn amlroddadwy yn gadael i chi gael presgripsiwn ar gyfer eich triniaethau heb weld meddyg neu nyrs.

Gofynnwch i'r derbynnydd, meddyg teulu neu fferyllydd sut mae presgripsiynau amlroddadwy yn gweithio yn eich meddygfa os ydych chi'n ansicr.

Mae fy mhractis yn cymryd 48 awr i gael presgripsiwn amlroddadwy. Felly, rwy'n rhoi'r ffurflen i mewn pan yw'r twb olaf yn hanner gwag. Rydych chi'n dod i arfer â meddwl ymlaen llaw. Ond fe wnes i gael fy nal allan ar wyliau ychydig o amser yn ôl a bu'n rhaid i mi brynu rhai o'r fferyllfa.

Aarav