Skip to main content

Cadw rheolaeth ar ecsema - fersiwn testun

Adroddwr: Nid yw bob amser yn hawdd bod ag ecsema a gorfod gweithio i gadw'ch croen yn feddal ac yn hapus. Mae ein croen yn rhwystr fel wal sy'n ein hamddiffyn.

Mae croen ecsema angen help gan hufennau lleithio i gloi lleithder i mewn a chadw pethau allan sy'n gwneud ecsema'n waeth. Mae gan yr hufennau lleithio hyn lawer o bethau da ynddyn nhw i wneud y croen yn gryfach ac atal fflamychiadau. Maen nhw wedi'u cynllunio ar gyfer ecsema yn unig. Felly, yn wahanol i leithyddion cosmetig, ar y cyfan nid oes ganddyn nhw unrhyw bersawr na chemegau ynddynt a allai wneud eich ecsema'n waeth. Gelwir hufennau lleithio hefyd yn esmwythawyr. Maent yn dod mewn gwahanol ffurfiau megis elïau, hufennau, geliau a golchdrwythau. Gall y rhain ddod mewn tybiau, pympiau, tiwbiau neu chwistrellau. Mae gan bob un yr un nod felly mae'n ymwneud â dod o hyd i un sy'n gweithio i chi. Beth sy'n gweithio i chi?

Person 1: Felly nid yw bob amser yn hawdd, ond rwy'n eithaf da am gadw rheolaeth ar fy ecsema os ydw i'n cadw at fy nhrefn ddyddiol. Rwy'n ceisio defnyddio fy hufen lleithio ddwywaith y dydd o leiaf! Hyd yn oed pan yw fy ecsema eisoes yn dda iawn, rwy'n dal i fynd. Yn union fel brwsio fy nannedd - rwy'n ei wneud bob bore pan wyf yn codi a bob nos cyn mynd i'r gwely. Rwy'n cadw tiwb bach gyda mi rhag ofn i'm croen deimlo'n goslyd neu'n sych yn ystod y dydd. Ond rwy'n trio cadw trefn neu fel arall rwy'n anghofio. Ac os ydw i'n anghofio, weithiau mae'r ecsema'n fflamychu eto.

Person 2: Rwy’n cytuno, i mi, pan yw fy ecsema'n fflamychu mae’n well defnyddio’r hufennau rheoli fflamychiadau yn ogystal â’m trefn arferol o hufennau lleithio. Rwy'n gadael bwlch o 20 munud er mwyn peidio â gwanhau'r hufennau. Mae'n gweithio'n dda os ydw i'n defnyddio fy hufennau lleithio yn y bore ac am amser gwely, sef yr hyn rwy'n ei wneud fel arfer, ac yna os ydw i angen fy hufen rheoli fflamychiadau yna rwy'n ei roi arnaf ar ôl dod adref.

Person 3: Ar ddiwrnodau sych, fe wnes i ganfod fy mod i'n defnyddio hufennau lleithio dros fy nghorff cyfan, ac yn arbennig fy smotiau fflamychu arferol. Rwy'n ceisio ei lyfnu i mewn a pheidio â'i rwbio i mewn, oherwydd gall ei rwbio wneud fy nghroen yn goslyd. Ac rwy'n ei roi arnaf tua'r un cyfeiriad ag y mae fy ngwallt yn tyfu. Wedyn rwy'n gadael iddo socian i mewn wrth i mi wrando ar fy hoff dôn cyn rhoi fy nillad arnaf.

Adroddwr: Felly, dyna chi, mae hufen lleithio'n ffurfio haen amddiffynnol dros y croen. Mae hyn yn cloi lleithder i mewn AC yn atal pethau a allai wneud ecsema'n waeth rhag mynd i mewn. Mae'n bwysig defnyddio lleithyddion hyd yn oed pan yw eich croen yn edrych yn dda er mwyn atal fflamychiadau. Gall defnyddio hufennau lleithio bob dydd eich helpu i gadw rheolaeth ar ecsema a chael croen cyfforddus ac iach.